Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen brentisiaeth, byddwch yn cael y Cyflog Cenedlaethol i Brentisiaid, sy'n £4.81 yr awr ar hyn o bryd. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd y cyflog yn dibynnu ar eich oedran, yn unol â'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yna, yn dibynnu ar y rhaglen y byddwch yn ei dilyn, bydd hyn yn cynyddu wrth i chi symud ymlaen trwy eich hyfforddiant.
*Y cyfraddau cyflogau yn gywir ym mis Chwefror 2022