Neidio i'r prif gynnwy

what3words

Mae what3words yn ap a gwefan am ddim sy'n helpu pobl i ddod o hyd i leoliadau manwl gywir a'u rhannu. 

Mae'r byd wedi'i rannu'n sgwariau sy'n mesur 3 metr wrth 3 metr. Mae pob sgwâr wedi cael cyfuniad unigryw o dri gair. Er enghraifft ///bumpy.trips.puns 

Mae'r tri gair hyn yn nodi un lleoliad union unrhyw le yn y byd. 

Gall gwasanaethau brys hefyd ddefnyddio what3words i helpu i leoli pobl yn gyflym pan nad ydyn nhw'n siŵr o'u lleoliad union. 

Sut i ddefnyddio what3words 

Gallwch unai: 

  •  Lawrlwythwch yr ap what3words am ddim o'r Apple App Store (ar gyfer iPhone) neu Google Play Store (ar gyfer Android), 

  1. Agorwch ap neu wefan what3words  

  1. Tapiwch ar y bar chwilio 

  1. Rhowch y tri gair os ydych chi'n eu hadnabod (mae'n bwysig eich bod chi'n eu rhoi yn union fel y'u darperir) neu gallwch ddefnyddio'r opsiwn chwilio. 

  1. Bydd y lleoliad yn ymddangos ar y map. 

  1. Dewiswch Lywio neu Gyfarwyddiadau i dderbyn cyfarwyddiadau gan ddefnyddio'ch ap mapiau dewisol. 

Rydym wedi cynnwys rhai cyfeiriadau what3words ar gyfer safleoedd ein hysbytai isod. Cliciwch ar enw'r ysbyty i agor y rhestr o gyfeiriadau. Yna gallwch eu nodi yn y bar chwilio yn what3words i gael cyfarwyddiadau i'r union leoliad hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r geiriau yn union fel y maent wedi'u rhestru isod.