Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin am y trydydd brechlyn

Ydw i'n gymwys i gael trydydd brechlyn COVID-19 sylfaenol?
Mae trydydd dos sylfaenol o'r brechlyn yn cael ei gynnig i unigolion 12 oed a hŷn a oedd â gwrthimiwnedd difrifol ar adeg eu dos cyntaf neu'r ail ddos o frechu COVID-19.

Mae’r rhain yn cynnwys y rhai sydd wedi cael neu sydd â:

  • chanserau’r gwaed (fel lewcemia neu lymffoma)
  • imiwnedd is oherwydd triniaeth (fel meddyginiaeth steroid dos uchel, therapi biolegol, cemotherapi, radiotherapi)
  • imiwnedd is oherwydd anhwylderau’r system imiwnedd a etifeddwyd
  • trawsblaniad organ neu drawsblaniad mêr esgyrn
  • clefydau a thriniaethau sy’n effeithio ar y system imiwnedd (fel HIV a reolir yn wael)

Os nad ydych yn siŵr a oes angen trydydd dos o’r brechlyn arnoch, siaradwch â’r arbenigwr sy’n gysylltiedig â’ch gofal.
 

Pryd y gallaf gael trydydd dos o'r brechlyn COVID-19?
Dylid rhoi’r trydydd dos o leiaf wyth wythnos ar ôl yr ail ddos, ond bydd yr amseru’n dibynnu ar unrhyw driniaeth y gallech fod yn ei chael.

Lle y bo’n bosibl, dylid oedi’r trydydd dos tan o leiaf bythefnos ar ôl y cyfnod imiwnoataliedig neu os ydych yn cael cyfres o driniaethau dylech ei gael ar adeg rhwng triniaethau pan fo’ch system imiwnedd gryfaf.

Gellir trafod amseriad eich trydydd dos gyda’ch arbenigwr.
 

Pwy na ddylai gael y trydydd brechiad?
Os ydych wedi cael adwaith difrifol iawn i’r dos blaenorol o’r brechlyn, dylech drafod hyn gyda’ch meddyg.
 

Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf wedi cael fy mrechlyn cyntaf neu ail?
Os nad ydych wedi derbyn brechlyn COVID-19 eto neu wedi methu'ch ail ddos, dylech eu cael cyn gynted â phosibl. Bydd angen y trydydd dos arnoch o hyd ond bydd ei amseriad yn dibynnu ar unrhyw driniaeth y gallech fod yn ei chael. Gallwch drafod hyn gyda'ch arbenigwr.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: