Croeso i’r pumed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yr wythnos ddiwethaf hon rydym wedi llwyddo i gyrraedd carreg filltir fawr - mae 1 o bob 5 o bobl bellach wedi derbyn brechlyn COVID-19 ar draws ein tair sir.
Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gyda diolch i waith caled ac ymroddiad timau brechu, meddygfeydd a gwirfoddolwyr ar draws y tair sir, rydym ar y trywydd iawn i gynnig brechiad i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 oed; a phawb sy'n hynod fregus yn glinigol, erbyn dydd Llun 15 Chwefror.
“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r miloedd o bobl yn ein cymuned sydd wedi derbyn gwahoddiad brechlyn. Mae gweld dros 90% o bobl mewn rhai grwpiau blaenoriaeth yn derbyn y brechlyn yn anhygoel.
“Rydyn ni’n gobeithio gweld y niferoedd uchel hyn o bobl yn dewis amddiffyn eu hunain gyda brechlyn yn parhau wrth i ni edrych ymlaen tuag at ein carreg filltir nesaf o gynnig brechlyn i bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol erbyn y Pasg.
“Gadewch i ni gadw Hywel Dda yn ddiogel. Diolch."
Os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 ac na chysylltwyd â chi ynglŷn â'ch apwyntiad brechlyn, mae angen i chi gysylltu cyn gynted â phosibl.
Os ydych rhwng 75 a 79 oed, yn cysgodi, neu'n gweithio ym maes iechyd rheng flaen, gofal cymdeithasol neu gartref gofal oedolion, ffoniwch 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk i archebu'ch brechlyn.
Os ydych chi'n 80 oed neu'n hŷn, neu'n 70 i 74 oed, cysylltwch â'ch meddygfa yn uniongyrchol.
Os nad ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4, peidiwch â chysylltu â ni ar hyn o bryd. Ein carreg filltir nesaf yw cynnig brechiad i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn y Pasg. Dyma bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol. Gwneir cyhoeddiadau pellach ynghylch sut y bydd y grwpiau hyn yn derbyn eu brechlyn cyn gynted â phosibl.
Grŵp Blaenoriaeth | Nifer â frechwyd | Canran derbyn |
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy’n oedolion hŷn |
2,409 |
93.3% |
P1.2 – Gweithwyr cartrefi gofal |
3,036 |
86.9% |
P2.1 – Pob un 80 oed a hŷn |
21,490 |
94.6% |
P2.2 & 2.3 – Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
20,902 |
99.5% |
P3 – Pob un 75 oed a hŷn |
12,471 |
63.9% |
P4.1 – Pob un 70 oed a hŷn |
14,558 |
55.4% |
P4.2 – Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
4,250 |
42.9% |
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
*1,464 |
1.2% |
Cyfanswm: |
81,562 |
21.1% |
Wrth i ni ymestyn ein rhaglen frechu, bu i’r bwrdd iechyd gydnabod rhai o'r heriau y gallai pobl yn y gymuned ei wynebu fel mynychu apwyntiad yn un o'r chwe canolfan frechu dorfol sydd ar waith ar draws y tair sir.
Gan gyflwyno cais i bartneriaid am gymorth, daeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymlaen i gynorthwyo gyda chludo pobl i'w hapwyntiadau ac oddi yno.
Dywedodd Chris Davies, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae’r bartneriaeth hon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unigryw, ac yn wir y gyntaf o’i bath ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae ein staff yn canolbwyntio ar y gymuned ac wedi'u hyfforddi i weithio gyda phobl o bob cefndir. Mae'r cyfuniad hwn wedi caniatáu inni ymateb yn gyflym i'r cais hwn am gymorth."
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae cefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn wych ac ar ran y bwrdd iechyd hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cymorth, a fydd yn sicrhau y gall pobl sy'n wirioneddol ei chael hi'n anodd teithio i ganolfan frechu dorfol fynychu eu hapwyntiad. "
Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau trafnidiaeth i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r rheini sy'n wirioneddol yn ei chael hi'n anodd teithio i ganolfan frechu dorfol. Cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant neu ymweliad (agor mewn dolen newydd).
Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'r bwrdd iechyd dim ond os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 ac nad ydych wedi derbyn ac apwyntiad eto
Os nad ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4, peidiwch â chysylltu â ni ar hyn o bryd. Ein carreg filltir nesaf yw cynnig brechiad i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn y Pasg. Dyma bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol. Gwneir cyhoeddiadau pellach ynghylch sut y bydd y grwpiau hyn yn derbyn eu brechlyn cyn gynted â phosibl.