Croeso i’r trydydd rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Rydym yn falch o adrodd, ers dechrau’r rhaglen frechu, mae 39,257 o bobl yn ardal Hywel Dda wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, sy’n 10.1% o’n poblogaeth
Grŵp Blaenoriaeth | Nifer â frechwyd | Canran derbyn |
---|---|---|
P1.1 - Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn | 2,326 * | 85.7% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal | 2,684 | 76.8% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn | 13,672 | 60.2% |
P2.2 & 2.3 - Health and social care workers | 14,410 | 68.6% |
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol | 6,165 ** | 1.8% |
Cyfanswm: | 39,257 | 10.1% |
Mae'r oriel isod yn cynnwys y straeon canlynol, cliciwch 'darllen mwy' i'w gweld.
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.