Croeso i rifyn 21 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Yn sgil ymdrechion ar y cyd canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol, cyflwynodd y bwrdd iechyd y 400,000fed brechlyn yr wythnos hon. Mae hyn yn golygu bod 260,447 o'n poblogaeth gymwys bellach wedi derbyn brechlyn cyntaf ac mae 147,439 bellach wedi derbyn cwrs llawn.
Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen am eu brechlyn hyd yma. Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn pob math o Covid-19 yw ein rhaglen frechu a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i arafu lledaeniad amrywiadau a chaniatáu amser i gynifer o bobl â phosibl gael eu brechiad. Mae'n bwysicach fyth nawr derbyn y ddau ddos o'r brechlyn pan gânt eu cynnig.
Mae'r brechlynnau'n cynnig amddiffyniad sylweddol rhag afiechyd difrifol, mynd i'r ysbyty a marwolaeth, a dyna pam ei bod yn hanfodol cael y ddau ddos brechlyn cyn gynted ag y cynigir hwy.
Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl. Gall pawb 18 oed neu drosodd neu mewn grwpiau blaenoriaeth JCVI 1 i 9 ofyn am un os nad ydych wedi derbyn apwyntiad eto neu wedi newid eich meddwl ar ôl gwrthod cynnig o frechlyn yn flaenorol, cysylltwch â'r bwrdd iechyd cyn gynted fel y bo modd fel y gellir trefnu apwyntiad i chi.
Os ydych dros 18 oed neu yn un o grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 y JCVI a heb gael apwyntiad brechlyn cyntaf, gofynnwch am un cyn gynted â phosib trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon (agor mewn dolen newydd). Rydym yn deall na fydd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod lenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322. Rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a'ch cymuned leol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Mae apwyntiadau ail ddos ar gyfer brechiad COVID-19 fel arfer yn digwydd tua 11 wythnos ar ôl yr apwyntiad dos cyntaf. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'ch apwyntiad ail ddos.
Os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 21 Mawrth ac nad ydych eto wedi derbyn eich gwahoddiad am ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais hon i roi gwybod i ni. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm archebu ar 0300 303 8322.
Mae tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn trwy ffonio 0300 303 5667 (ar agor saith diwrnod, rhwng 9am a 5pm).
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,127 | 82.4% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,449 | 98.7% | 3,068 | 87.8% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,837 | 99.9% | 21,609 | 94.6% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,670 | 99.9% | 22,368 | 87.0% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,675 | 95.7% | 17,961 | 92.0% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,025 | 95.2% | 24,121 | 91.7% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,678 | 87.6% | 8,048 | 81.3% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,666 | 90.7% | 19,587 | 82.0% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
38,080 | 85.3% | 17,749 | 39.8% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,379 | 68.8% | 7,384 | 38.0% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,767 | 79.4% | 1,023 | 5.5% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,523 | 89.3% | 787 | 4.8% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
51,239 | 33.2% | 1,607 | 1.0% |
Cyfanswm: | 260,447 | 67.3% | 147,439 | 38.1% |
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.