Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 7 - Cyhoeddwyd 24 Chwefror 2021

Croeso i’r seithfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yr wythnos hon mae 8,834 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae 2,750 o ail ddosau wedi'u cwblhau. Fel yr adroddwyd ym mwletin yr wythnos diwethaf, mae nifer y brechlynnau sy'n cael eu danfon yn arafu o’i gymharu â'r wythnosau diwethaf. Mae hyn oherwydd gostyngiad yn nifer y brechlynnau y byddwn yn eu derbyn - mae hwn yn newid arfaethedig a disgwyliedig yn y cyflenwad a fydd yn effeithio ar y DU gyfan. Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau pobl.

Ar hyn o bryd mae meddygfeydd yn gwahodd pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 5 i gael eu brechu, hynny yw pawb rhwng 65 a 69 oed. Ein nod yw gwahodd pawb yn y grŵp hwn erbyn dydd Gwener 12 Mawrth a dechrau gwahodd pobl yng ngrŵp 6 erbyn dydd Llun 15 Mawrth fan bellaf.

Rydym yn cydnabod nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn hysbys i feddygon teulu nac awdurdodau lleol. Rydym wrthi'n cwblhau trefniadau ynghylch nodi gofalwyr di-dâl cymwys ar gyfer blaenoriaethu brechlyn a'r trefniadau gweithredol i gefnogi hyn. Disgwyliwn gyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf a byddwn yn hysbysebu hyn ar ôl ei gyhoeddi.

I gael mwy o wybodaeth am grwpiau risg clinigol 16 oed a hŷn a ddylai dderbyn brechlyn COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6, gweler Tabl 3 yma (agor mewn dolen newydd).

Sylwch, mae'r rhai ag asthma difrifol (a ddiffinnir fel defnydd rheolaidd o corticosteroidau geneuol neu a oedd gynt angen eu derbyn i'r ysbyty) mewn mwy o berygl ac wedi'u cynnwys yng ngrŵp 6. Nid yw unigolion ag asthma ysgafn i gymedrol mewn mwy o berygl ac nid ydynt yn cael eu hargymell i'w brechu gan JCVI.

Wrth i fwy o'n cymuned ddechrau derbyn brechlyn, atgoffir pobl bod yn rhaid iddynt barhau i ddilyn cyngor ac arweiniad cyfredol mewn perthynas â phellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb. Bydd y brechlyn yn lleihau eich siawns o fynd yn ddifrifol wael. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws.

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd

Canran Derbyn

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy’n oedolion hŷn

2,423

93.9%

P1.2 – Gweithwyr cartrefi gofal

3,063

87.7%

P2.1 – Pob un 80 oed a hŷn

22,348

98.4%

P2.2 & 2.3 – Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

21,260

93.2%

P3 – Pob un 75 oed a hŷn 

17,855

91.5%

P4.1 – Pob un 70 oed a hŷn

24,000

91.3%

P4.2 – Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

7,758

78.3%

P5 –  pawb sy'n 65 oed a hŷn

9,792

41.0%

Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

1,580

1.0%

Cyfanswm:

112,823

29.1%

Cyfanswm brechu ym mhob sir:

  • Caerfyrddin 52,804 (28.0%)
  • Ceredigion 20,152 (27.7%)
  • Sir Benfro 36,448 (29.0%)
  • Arall 3,385 - heb eu dyrannu i sir neu staff sy’n gweithio i ni ond sy’n byw y tu allan i’r tair sir

Dwy ffrind ysgol Caerfyrddin yn arwain y ffordd

Dyma stori anhygoel dwy ffrind ysgol o ardal Caerfyrddin a'u rolau canolog yn llwyddiant rhaglen frechu COVID-19.

Mae Emma Bolam yn rhan o'r tîm a greodd frechlyn Oxford-AstraZeneca a'i ffrind gorau o'r ysgol, Lynne Edwards, yw cydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gweinyddu'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Aeth Emma i Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ac mae'n gweithio yn Sefydliad Jenner, sy'n datblygu brechlynnau ac wedi'i leoli yn adran feddygaeth Prifysgol Rhydychen. Hi yw pennaeth cynhyrchu yng nghyfleuster bio-weithgynhyrchu clinigol y sefydliad.

Mae ei rhieni yn dal i fyw ym Mhenybont - ac mae ei ffrind gorau o'r ysgol, Lynne Edwards, yn digwydd bod yn gydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gweinyddu'r brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am stori Emma a Lynne (agor mewn dolen newydd) neu gwyliwch Emma a Lynne yn siarad â Heno am eu profiad yma (agor mewn dolen newydd).

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: