Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 3 – Cyhoeddwyd 28 Ionawr 2021

Croeso i’r trydydd rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Rydym yn falch o adrodd, ers dechrau’r rhaglen frechu, mae 39,257 o bobl yn ardal Hywel Dda wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, sy’n 10.1% o’n poblogaeth

 

Tabl Diwygiedig

* adroddir yn genedlaethol fel 1,683 + data cofnodedig lleol o 643
**  Mae 5,615 o frechiadau heb eu gosod eto yn eu grwpiau blaenoriaeth ar y system genedlaethol 

Grŵp Blaenoriaeth Nifer â frechwyd Canran derbyn
P1.1 - Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn 2,326 * 85.7%
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal 2,684 76.8%
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn 13,672 60.2%
P2.2 & 2.3 - Health and social care workers 14,410 68.6%
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol 6,165 ** 1.8%
Cyfanswm: 39,257 10.1%

 

Cyfanswm brechu ym mhob sir:

  • Sir Gaerfyrddin - 17,677 (9.4%)
  • Ceredigion - 7,459 (10.3%)
  • Sir Benfro - 12,414 (9.9%)
  • 1,707 arall – heb eu dyrannu i sir neu staff sy’n gweithio i ni ond sy’n byw y tu allan i’r tair sir 

Oriel o Straeon

Mae'r oriel isod yn cynnwys y straeon canlynol, cliciwch 'darllen mwy' i'w gweld.

 

 

 

 

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

 

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: