Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 24 - Cyhoeddwyd 23 Mehefin 2021

Croeso i rifyn 24 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gyda'r cynnydd a gadarnhawyd mewn achosion ledled y DU mae'n bwysig bod cymaint o bobl yn dod ymlaen am eu brechlynnau cyntaf ac ail.

Bydd rhaglen frechu Cymru yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 dros y pedair wythnos nesaf - dyna bawb dros 50 oed, yr holl weithwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, a grwpiau bregus eraill, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, gan ddechrau o ddydd Llun 28 Mehefin, bydd clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Galwch i mewn i unrhyw un o'r canolfannau canlynol i dderbyn eich dos brechlyn cyntaf. Mae hyn ar gael i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn neu'ch ail ddos brechlyn os yw'n ddyledus:   

Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm   

Aberteifi (Canolfan Hamdden Aberteifi SA43 1HG) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Gwener 2 Gorffennaf ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Cerdded i Mewn Caerfyrddin (Canolfan Gynhadledda Halliwell, UWTSD, SA31 3EP) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Iau 1 Gorffennaf ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Gyrru trwodd Cerfyrddin (Maes y Sioe, SA33 5DR) 

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 7.00pm 

Hwlffordd (Archifau Sir Benfro, SA61 2PE)  

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Llanelli (Theatr Ffwrnes  SA15 3YE) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod, SA70 8EJ) 

  • Ar agor dydd Gwener – dydd Sul, 10.00am - 8.00pm 

 
Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad ond os ydych yn dymuno trefnu apwyntiad gallwch wneud hynny o hyd trwy gysylltu â'n tîm archebu ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Os ydych eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, mae croeso i chi fynychu'r clinig cerdded i mewn ac os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu, cadwch amser eich apwyntiad.

Noder, er bod ymdrech fawr yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o'r holl frechlynnau ar gael ym mhob canolfan, os nad yw'r brechlyn sydd ei angen arnoch ar gael, bydd ein staff yn archebu’r sesiwn nesaf sydd ar gael.

Os ydych am gael sicrwydd bod y brechlyn priodol ar gael, cysylltwch â Chanolfan Reoli Hywel Dda cyn teithio i ganolfan.

Rhif ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Dywedodd Alison Evans, Nyrs Glinigol Arweiniol ar gyfer canolfannau brechu torfol Hywel Dda: “Yn dilyn cadarnhad yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog fod Cymru ar ddechrau trydedd ton, roeddem yn gwybod bod angen i ni ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael brechlyn.

“Rwy’n hynod falch o’n holl dimau brechu ar draws ein canolfannau sy’n gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r brechlyn sydd ei angen ar bobl, pan fydd ei angen arnynt.

“Os nad ydych wedi cael eich brechlyn cyntaf, nid yw byth yn rhy hwyr; galwch heibio i'ch canolfan leol a byddwn yn trefnu hyn ar eich cyfer. Mae gennym gynlluniau ar waith i sicrhau y gallwn frechu mwyafrif y bobl yno, ond os na allwn am unrhyw reswm, byddwn yn trefnu brechlyn i chi cyn gynted â phosibl.

“Bydd ein staff hefyd yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw un sy’n ansicr a ydyn nhw am gael y brechlyn ac a allai fod â chwestiynau maen nhw eisiau atebion iddyn nhw cyn cael eu brechu. Mae gennym dimau cyfeillgar, arbenigol ar draws ein holl ganolfannau felly os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch cael y brechlyn, galwch heibio i'n gweld am sgwrs. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych fel y gallwch wneud y penderfyniad iawn i chi.”

Gallwch hefyd ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf (Iechyd Cyhoeddus Cymru, agor mewn dolen newydd).

Mae 3 o bob 5 oedolyn bellach wedi'u brechu'n llawn ledled Cymru. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddod ymlaen am eich brechlyn.

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,136 82.8%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,473 99.4% 3,161 90.5%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,817 99.9% 21,785 95.3%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,798 98.5% 23,704 90.5%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,665 95.6% 18,127 92.9%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,010 95.1% 24,359 92.6%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,689 87.7% 8,262 83.4%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,661 90.7% 20,970 87.8%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,551 86.4% 34,139 76.5%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,386 68.8% 12,722 65.4%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,820 79.7% 13,033 70.1%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,754 90.8% 6,349 39.1%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

65,878 42.9% 4,184 2.7%
45 - 49 oed 11,080 70.1% 1,104 7.0%
40 - 44 oed 10,238 67.4% 786 5.2%
35 - 39 oed 10,572 65.5% 635 3.8%
30 - 34 oed 10,456 61.5% 571 3.3%
25 - 29 oed 9,344 53.5% 524 3.0%
20 - 24 oed 10,082 53.5% 413 2.2%
15 - 19 oed 4,104 27.2% 151 1.0%
Cyfanswm: 275,992 71.3% 192,931 49.8%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 24

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: