Ein nod yw cyflawni’r rhaglen frechu fwyaf a welodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol erioed ar gyfer ein cymuned yma yn ardal BIP Hywel Dda.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi bod yn anodd i bob un ohonom. Mae llawer wedi colli perthnasau a ffrindiau agos i'r afiechyd ac rydym i gyd wedi wynebu newidiadau rhyfeddol i'n bywydau ac wedi llawer o aberthau.
Bellach mae gennym frechlynnau COVID-19 effeithiol a all gynnig amddiffyniad i ni a llwybr allan o'r pandemig hwn a'i effeithiau dinistriol.
Bydd yn cymryd amser i amddiffyn pawb ac yn y cyfamser mae'n rhaid i ni i gyd ddilyn y cyfyngiadau a'r mesurau hylendid a phellter sydd ar waith i'n hamddiffyn ni i gyd.
Bwriad yr adnodd gwe hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am gyflawni’r rhaglen brechu torfol yn ardal BIP Hywel Dda UHB.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi amlinelliad o'n dull gweithredu i chi. Mae'r tudalennau gwe ategol yn rhoi gwybodaeth i chi wneud penderfyniad am frechu, yn ogystal â gwybodaeth fel ble y gallwch gael eich brechlyn a chwestiynau cyffredin.