Os ydych yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref, yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac nad ydych wedi cael apwyntiad eto, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn gynted â phosibl ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk
Mae pigiadau rhaglen frechu’r hydref eleni wedi’u cynnig i’r grwpiau blaenoriaeth canlynol:
- unrhyw un 50 oed neu hŷn
- preswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn
- gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
- pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, a’u cysylltiadau cartref
- gofalwyr rhwng 16 a 49 oed