Neidio i'r prif gynnwy

Ymdopi â phryder

Mae pryderu am iechyd yn rhywbeth cyffredin, ac mae'n ddealladwy. Pan fydd penderfyniadau ynghylch gofal iechyd yn cael eu gohirio neu'n ansicr, mae'n naturiol y byddwch yn brwydro mwy yn erbyn pryder. Ar adegau fel hyn, mae'n bwysig eich bod yn cynnig gofal a thosturi i chi eich hun a'r rhai o'ch cwmpas. 

Gall pryder deimlo'n debyg i gadwyn o feddyliau a delweddau, sy'n aml yn rhag-weld pethau drwg a allai ddigwydd. Gall ymddangos yn afreolus yn aml. Gall effeithio ar ein corff, er enghraifft trwy achosi tensiwn neu boenau yn y cyhyrau, aflonyddwch ac anallu i ymlacio, ac anhawster canolbwyntio a chysgu, gan hefyd beri i ni flino'n rhwydd. Pan fo pethau wedi mynd y tu hwnt i'n rheolaeth, mae hefyd yn normal teimlo'n ddig ac yn bigog. Efallai y byddwch yn teimlo'n ddig yn gyffredinol, a hynny tuag atoch eich hun neu at eraill. 

 

Awgrymiadau defnyddiol:

Mae poeni yn normal, ac weithiau'n ddefnyddiol. Er enghraifft, gall pryder eich helpu i feddwl ymlaen, a chynllunio a datrys problemau. Ond gall gormod o bryder feddiannu eich bywyd, gwneud i chi deimlo'n ofidus ac wedi blino'n lân, a gall amharu ar y pethau yr ydych am eu gwneud. 

Dyma rai syniadau a all fod o gymorth:

  • Nodwch eich pryderon ar bapur – gall helpu i gael eich meddyliau allan o'ch pen ac ar bapur.
  • Canolbwyntiwch ar bethau sydd o fewn eich rheolaeth – rydym yn aml yn poeni am bethau na allwn wneud dim yn eu cylch, neu bethau a allai ddigwydd (neu beidio). Penderfynwch pa rai o'ch pryderon y gallwch wneud rhywbeth yn eu cylch ar hyn o bryd, a gweithredwch i ddatrys y rhain.
  • Gollyngwch eich gafael ar y pryderon nad ydynt o fewn eich rheolaeth. Pryderon 'damcaniaethol' yw'r rhai hynny sy'n golygu y byddwn yn poeni am rywbeth na allwn wneud unrhyw beth ymarferol yn ei gylch ar hyn o bryd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn meddwl am y senarios gwaethaf posibl, neu benderfyniadau y gallai rhywun arall eu gwneud. Mae'r pryderon hyn yn aml yn dechrau gyda'r geiriau “Beth os …” 
  • Edrychwch ar y diagram defnyddiol hwn (PDF) i'ch helpu i benderfynu pa bryderon sy'n ddefnyddiol a pha rai sy'n annefnyddiol (agor mewn dolen newydd).  
  • Cydnabyddwch nad peth hawdd yw gollwng gafael ar bryderon.
  • Sylwch ar y meddwl di-fudd – dywedwch rywbeth tebyg i, “Wel, ie, dyna'r pryder yna am x eto”.
  • Ewch ati i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar – gall hyn eich helpu i ollwng gafael ar bryder a dod â'ch ffocws yn ôl i'r “fan a'r lle”. Rhowch gynnig ar yr ymarfer isod, neu defnyddiwch y dolenni a'r apiau i gael rhagor o wybodaeth ar ymwybyddiaeth ofalgar (sain). 
  • Byddwch yn garedig wrthych chi eich hun – ceisiwch beidio â'ch beirniadu eich hun na dweud y drefn wrthych eich hun am bryderu. 
  • Gwnewch rywbeth arall – treuliwch eich amser yn gwneud pethau yr ydych yn eu mwynhau, sy'n rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi, neu sy'n eich cysylltu â phobl eraill. 

 

Ymwybyddiaeth Ofalgar – “gadael i bethau fynd” 

Mae'n rhaid ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar fyfyrio o'r blaen, efallai y byddwch yn sylwi bod eich sylw yn crwydro ac nad yw'n hawdd ei reoli. Mae pobl sy'n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn rheolaidd yn canfod ei fod yn helpu eu gallu i barhau yn y foment bresennol ac ymdopi ag amrywiaeth eang o deimladau. 

Cyfarwyddiadau 

  • Eisteddwch mewn ystum cyfforddus. 
  • Dychmygwch eich bod eistedd yn ymyl nant sy'n llifo'n dawel, a bod dail yn llifo heibio ar wyneb y nant.
  • Am ychydig funudau, cymerwch bob meddwl a phryder sy'n dod i mewn i'ch pen, ei roi ar ddeilen, a gadael iddo arnofio heibio.
  • Gadewch i'r nant lifo ar ei chyfradd ei hun – peidiwch â'i chyflymu i geisio golchi'r meddyliau i ffwrdd. Byddant yn mynd a dod yn eu hamser eu hunain.
  • O bryd i'w gilydd, byddwch yn gweld eich bod yn colli trywydd yr ymarfer ac yn mynd yn gaeth i'ch meddyliau. Pan fo hyn yn digwydd, dewch â'ch sylw yn ôl yn dyner at y nant. 

 

Adnoddau defnyddiol:

Hunangymorth IAWN Hywel Dda (agor mewn dolen newydd) 

Mindfulness and Letting go – Taflen Wybodaeth (agor mewn dolen newydd) 

Fideos a Chanllawiau Hunangymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llesiant – Bywyd Actif (agor mewn dolen newydd)  

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho o Google Play (agor mewn dolen newydd) neu'r Apple App Store (agor mewn dolen newydd) – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma (agor mewn dolen newydd)
 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: