Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Triniaeth – Cyngor ar ffordd o fyw

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o'r driniaeth a'ch adferiad. 

Gall eich triniaeth gynlluniedig fod yn her i chi a'ch corff. Gall gwneud nifer bach o newidiadau olygu gwahaniaeth mawr i'r ffordd y byddwch yn ymateb i'r driniaeth ac yn gwella ar ei hôl.  

Pam y mae'n bwysig paratoi?

Bydd paratoi yn eich helpu i: 

  • ymateb i'ch triniaeth yn well, ynghyd â sicrhau adferiad cyflymach
  • gwella eich lefelau egni, lleihau blinder a gwella eich patrwm cysgu
  • cynnal eich annibyniaeth a chyflawni mwy o'ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd
  • gwella eich ffitrwydd cyffredinol a'ch ymdeimlad o lesiant, gan hyrwyddo ffordd iach o fyw yn yr hirdymor

Y ffordd i baratoi ar gyfer triniaeth

Mae paratoi ar gyfer triniaeth yn golygu meddwl am eich trefn ddyddiol, eich gweithgareddau, eich patrymau bwyta, eich arferion a'ch ffordd o fyw, a newid rhai o'r rhain er mwyn gwella eich iechyd a'ch llesiant. 

Mae'r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth a chymorth ar ffactorau sy'n effeithio ar eich iechyd a'ch adferiad. Bydd y rhain yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich triniaeth, gan eich cynorthwyo i wella, cymryd rheolaeth a bod yn rhan o'ch gofal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: