Rydym wedi gwneud newidiadau dros dro i'r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau a hefyd amseroedd ymweld mewn ymateb i'r achosion Coronafeirws. Dylai cleifion ac ymwelwyr gysylltu â'n Tîm Cymorth i Gleifion ar 0300 0200 159 neu HDHB.Patientsupportservices@wales.nhs.uk gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Gall teulu a ffrindiau nawr fynychu ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ymweld â chleifion ar sail gyfyngedig gyda chytundeb ymlaen llaw â staff yr ysbyty yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd).
Er bod nifer yr achosion o COVID-19 wedi lleihau yn ein hysbytai ac yn y gymuned, nid yw'r feirws wedi diflannu yn gyfan gwbl. Fel rhai ardaloedd eraill ledled Cymru a'r DU rydym yn parhau i ddelio ag achosion o COVID-19 a heintiau anadlol eraill yn ein hysbytai. O ganlyniad, mae trefniadau ymweld â phob ysbyty Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn parhau i fod yn destun newid ar fyr rybudd.
Yn weithredol o ddydd Llun 29 Tachwedd, rhaid i bob ymweliad gael ei drefnu ymlaen llaw gyda Prif Nyrs y Ward er mwyn ein galluogi i gynnal pellter cymdeithasol yn ein wardiau ac ar draws ein safleoedd. Mae hyn yn golygu y gellir cefnogi ymweliad a drefnwyd ymlaen llaw ar gyfer un person bob dydd, ar yr amod bod pwrpas clir i'ch ymweliad a'i fod er budd gorau'r claf, yn unol â'r canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru:
‘Ymweld â phwrpas’:
Mae’r trefniadau ymweld presennol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth i’w gweld ar ein tudalennau ‘Ailddechrau Gwasanaethau’ a dewis gwasanaethau mamolaeth (agor mewn dolen newydd).
Sylwch y gofynnir i ymwelwyr nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf hyn ddefnyddio opsiwn ymweld rhithwir sydd ar gael yn yr ysbyty, megis defnyddio tabled neu ffôn symudol. Bydd Swyddogion Cyswllt Teulu ar gael ar wardiau i gefnogi mynediad rhithwir.
Nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i ymwelwyr wisgo mygydau neu orchuddion wyneb wrth fynd i mewn i safleoedd gofal iechyd yng Nghymru. Fodd bynnag, o fewn Hywel Dda, byddwn yn parhau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd yn gyffredinol i wisgo mygydau/gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i’n cyfleusterau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus, wardiau ac adrannau.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd iechyd rwyf am fynegi ein diolch i'n cleifion, eu teuluoedd a'n cymunedau am eich dealltwriaeth barhaus gan lynu wrth y rheolau ymweld llym iawn yr ydym wedi gorfod eu gosod trwy gydol y pandemig hwn.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei fod yn gyfnod anodd i bawb. Byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl.
“Gall ein tîm cymorth i gleifion a swyddogion cyswllt teulu helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion o’u teulu a hwyluso cyfathrebu trwy opsiynau digidol / ffôn; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar 0300 0200 159 a byddan nhw'n gwneud eu gorau i'ch helpu chi."
Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o'n safleoedd ysbytai os ydych chi: