Neidio i'r prif gynnwy

Mae arna'i angen cefnogaeth i'm hiechyd meddwl. Lle dylwn i gychwyn?

Adnoddau hunangymorth ar-lein o Iechyd Cyhoeddus Cymru

Medrwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys manylion am gyrsiau ar-lein, aps, llyfrau, taflenni a gwefannau. Cliciwch yma i weld adnoddau ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyrsiau therapi iechyd meddwl ar-lein SilverCloud

Gall pobl ledled Cymru yn awr gyrchu therapi ar-lein am ddim heb orfod mynd trwy  eu meddyg teulu.

Gall pobl 16 a hŷn sy’n dioddef o bryder, iselder neu straen ysgafn neu ganolig ymuno ar gwrs 12-wythnos o therapi SilverCloud ar-lein trwy eu ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur desg.

Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein i holl boblogaeth Cymru sydd dros 16 oed yn cydnabod fod ar bobl angen help yn syth i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i effaith COVID-19 barhau i daro, ac y mae’n lleihau’r rhwystrau i gyrchu’r gefnogaeth hon.

I gofrestru ar gyfer SilverCloud neu i ddarganfod mwy cliciwch yma.​​​​​​​

Llinellau cymorth iechyd meddwl

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL i Gymru ar gael 24/7 ac yn cynnig cyngor cyfrinachol am amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ogystal â rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi yn eich ardal leol a gwybodaeth am sut i fynd atynt.

Teliffon: 0800 132 737 neu anfonwch neges destun ‘help’ i 81066

Siaradwch â’ch meddyg teulu

Os ydych yn teimlo allan o reolaeth yn emosiynol, neu’n poeni y gall fod gennych broblem iechyd, mae nifer o lefydd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf, gan gynnwys siarad â’ch meddyg teulu. 

Mae meddygon teulu yn parhau i roi cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19 trwy gyfuniad o ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb, fideo a dros y ffôn.

Gall eich meddyg wneud hyn:

  • Siarad am eich problemau
  • Bwrw golwg i weld a oes achos corfforol dros eich problemau
  • Rhoi meddyginiaeth i chi am iselder, pryder a chyflyrau eraill
  • Eich cyfeirio at wasanaeth priodol

Cofiwch: Os ydych yn meddwl y gall eich meddyg fod yn rhy brysur i siarad am eich problemau, medrwch drefnu gyda’r derbynnydd am apwyntiad hir. Neu fe allwch ysgrifennu popeth mewn llythyr a’i anfon at eich meddyg.

Monitro Gweithredol

Mae rhai meddygfeydd yn cynnig cyfeiriad cyflym at wasanaeth o’r enw ‘Monitro Gweithredol’, lle medrwch gael help i fynd i’r afael â phethau fel Rheoli Dicter, Iselder, neu bryder. Mae’r gwasanaeth hwn fel arfer ar gael yn wythnosol am 5/6 wythnos a’r nod yw rhoi dulliau i chi reoli eich iechyd meddwl eich hun, yn enwedig os bydd rhai teimladau a phryderon yn digwydd dro ar ôl tro.

Cliciwch yma i ymweld â'r wybodaeth Monitro Gweithredol

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: