Neidio i'r prif gynnwy

Fedra'i gysylltu'n uniongyrchol â'r tîm ynghylch y person yr wyf yn gofalu amdani/o?

Medrwch - mae modd o hyd cysylltu’n uniongyrchol â thimau gofal iechyd, ac y mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny os oes gennych unrhyw bryderon. Fodd bynnag, chaiff gweithwyr iechyd proffesiynol ddim fel arfer rannu gwybodaeth gyfrinachol am eich perthynas gyda chi, oni fydd y perthynas yn cytuno. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar ‘Cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth: I ofalwyr, cyfeillion a theuluoedd’ trwy glicio yma.

Medrwch chi a’ch perthynas gymryd camau er mwyn i weithwyr proffesiynol allu rhannu gwybodaeth gyda chi. Gweler yr adran dan y teitl ‘Pa drefniadau fedra’i wneud at y dyfodol?’ yn y ddolen uchod.

Fe welwch y gall eich perthynas lofnodi ffurflen gydsynio i ganiatáu i chi gael gwybodaeth gan y gweithwyr proffesiynol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: