Neidio i'r prif gynnwy

Sut y galla'i fynd at eiriolwyr (advocates)? Ddylen nhw ddal i ddod i'r ward?

Mae eiriolwyr annibynnol yn weithwyr allweddol, ac o’r herwydd, mae gwasanaethau eiriol yn dal i weithredu yn y lleoliadau arferol lle mae pobl yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd a gofal. Bydd eiriolwyr yn cynnig amrywiaeth o fathau o gefnogaeth i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, gan gynnwys cefnogaeth arlein ochr yn ochr ag unrhyw ostyngiad mewn cefnogaeth.

Mae’n bwysig yn yr amser anodd hwn eich bod yn cael gwybod beth yw eich hawliau a’ch bod yn cael eich cefnogi i holi cwestiynau am eich triniaeth ac y gallwch gyrchu eiriolwyr i gefnogi hyn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: