Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn dweud wrthyf ei fod yn cael trafferth?

Diolch iddynt am rannu'r hyn sy'n digwydd gyda chi, a’u hannog trwy egluro fod bod yn agored a gonest yn beth cadarnhaol iawn, gan gydnabod sut y maent yn teimlo.

Gadewch iddynt wybod eich bod yn eu caru, eich bod yno i'w cefnogi a'u bod yn gallu siarad â chi, eich bod yn gwrando ac yn barod i helpu a gwrando mwy pan fyddant eich angen.

Gofynnwch iddynt a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu neu unrhyw beth y mae unrhyw un arall yn gallu ei wneud i helpu.

Treuliwch amser gyda'ch gilydd yn meddwl am yr hyn sy'n gwneud iddyn nhw deimlo fel hyn. Trafodwch a oes unrhyw newidiadau a allai fod wedi gwneud iddynt deimlo fel hyn a meddyliwch am y pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

Rhowch wybod i'ch plentyn am y llinellau cymorth, y llinellau tecstio a'r gwasanaethau sgwrsio ar-lein sydd ar gael os oes angen iddynt siarad â rhywun y tu allan i'r teulu. Gallwch ddod o hyd i restr o'r rhain uchod yn yr Adran Plant a Phobl Ifanc – Cwestiwn 3.

Os credwch fod angen cefnogaeth broffesiynol ar eich plentyn i deimlo'n well gallwch siarad ag ysgol neu feddyg teulu eich plentyn, a fydd yn gallu eich cynghori ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Gyda'ch gilydd gallwch drafod a oes angen atgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc CAMHS, asesiad gan arbenigwr iechyd meddwl, neu atgyfeiriad am fath arall o gefnogaeth. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu, ysgol neu ganolfan blant leol gyda'ch plentyn neu hebddo.

Os oes angen cefnogaeth emosiynol ar eich plentyn a help i wneud synnwyr o'u teimladau, gallent elwa o weld cwnselydd neu therapydd. Efallai y gallwch gael cymorth o’r fath am ddim trwy eich meddyg teulu neu ysgol eich plentyn. Os yw'n opsiwn fforddiadwy, gallwch hefyd ystyried cynghorydd plant preifat. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gael gwasanaethau cwnsela, cysylltwch â'ch Tîm CAMHS lleol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: