Neidio i'r prif gynnwy

Sut alla'i gefnogi fy mhlentyn?

Byddwch yno i wrando

Mae'n bwysig gofyn i'ch plentyn yn rheolaidd sut maen nhw’n teimlo, fel eu bod nhw'n dod i arfer siarad am eu teimladau ac yn gwybod bod rhywun ar gael i wrando bob amser os ydyn nhw eisiau siarad. Gall creu awyrgylch hwyliog helpu gyda hyn, ac mae rhai rhieni'n canfod yn ystod gweithgareddau difyr y gall eu plant fod yn fwy agored am sut maen nhw'n teimlo. Gall hyn gynnwys pobi, celf a chrefft, chwaraeon, gemau bwrdd, darllen straeon a siarad amdanynt wedyn.

Y peth pwysig yw ceisio gwrando ar eich plentyn a rhoi eich amser iddo ef / iddi hi heb unrhyw bethau yn tynnu eich sylw. Mae talu sylw i’w hemosiynau a'u hymddygiad yn eich helpu i nodi newidiadau pwysig a deall eu hanghenion yn well.

Parhewch i fod yn rhan o'u bywyd

Mae hyder llawer o blant a phobl ifanc yn cynyddu wrth deimlo eu bod yn cael cefnogaeth a phan fydd rhiant yn dangos diddordeb ymarferol yn eu bywyd a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae hyn nid yn unig yn eu helpu i werthfawrogi pwy ydyn nhw ond hefyd yn ei gwneud hi'n haws ichi sylwi ar broblemau a'u cefnogi.

Anogwch eu diddordebau

Cefnogwch eich plentyn i gadw'n heini, dysgu sgiliau newydd a chael cyswllt â'u cymuned a ffrindiau. Mae hyn yn un o’r ffyrdd gorau i gadw iechyd emosiynol eich plentyn ar y trywydd iawn. Wrth inni dreulio mwy o amser gartref gyda'n gilydd mae'n gyfle gwych i siarad â'ch plentyn am ei ddiddordebau a'r hyn y mae'n ei fwynhau, a gallwch wedyn feddwl am ffyrdd i'w gefnogi yn y diddordebau hynny. Yn aml iawn nid oes raid i'r pethau hyn gostio llawer o arian ac yn aml iawn bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthych beth sydd ar gael am ddim ac am bris rhesymol yn eich ardal chi. Bydd gan ysgolion, colegau a'ch awdurdod lleol syniadau da hefyd neu efallai y gallant gael gafael ar bethau a fydd yn cefnogi diddordebau eich plentyn.

Cymerwch yr hyn maen nhw'n ei ddweud o ddifrif

Mae gwrando ar eich plentyn a gwerthfawrogi'r hyn maen nhw'n ei ddweud, heb farnu teimladau yn ei dro yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cynyddu eu hymddiriedaeth a'u hyder yn eich perthynas. Nid yw hyn bob amser yn hawdd, ac weithiau wrth i’ch plentyn ddisgrifio sut maent yn teimlo, gall fod yn anodd ei glywed, a hyd yn oed ei dderbyn. Bydd hyn yn arbennig o wir pan glywn hyn am y tro cyntaf. Y peth pwysicaf yw peidio ag ymateb yn syth na diystyru teimladau plant, ond yn hytrach gwrando’n bwyllog a dangos eich bod wedi ymroi iddynt ac eisiau helpu. Mae'n dda siarad am pam y gallent fod yn teimlo fel y maent, ond cofiwch nad yw llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod pam, ond maent yn gwybod sut maent yn teimlo. Mae'n dda siarad am yr hyn maen nhw'n feddwl fydd yn helpu a beth rydych chi'n ei feddwl a allai fod o help, a’r pethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw. Weithiau gall siarad am y peth a chael cynllun wneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Mae'n dda gwneud cysylltiad gyda'ch plentyn, ond ceisiwch adael iddyn nhw arwain wrth benderfynu faint maen nhw'n ei rannu; mae'n anodd cael cydbwysedd cywir ond weithiau gall holi gormod arwain at i’r plentyn fod yn gyndyn o rannu, felly cymerwch arweiniad ganddyn nhw a chynnig cyfleoedd cyson heb unrhyw bwysau.

Creu arferion cadarnhaol

Rydym yn gwybod nad yw'n hawdd creu trefn a strwythur yn y cyfnod hwn, gyda'r cyfnodau clo rheolaidd a'r angen i hunan-ynysu yn tarfu ar ein harferion arferol. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dweud wrthym fod y mwyafrif o blant yn teimlo'n well os oes trefn gadarnhaol yn bodoli. Gall trefn a strwythurau gefnogi lles plentyn ac annog ymddygiadau cadarnhaol. Man cychwyn da yw ailgyflwyno arferion rheolaidd gartref o amgylch bwyta'n iach ac ymarfer corff. Mae noson dda o gwsg hefyd yn bwysig iawn - ceisiwch eu cael yn ôl i arferion sy'n cyd-fynd â phatrwm dyddiau ysgol neu'r coleg.

Gofalu am eich iechyd meddwl eich hun

Gall magu plant neu ofalu am blentyn neu berson ifanc fod yn anodd ar brydiau. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun, gan y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r rhai rydych chi'n gofalu amdanynt.

Mae cydnabod pan rydych yn teimlo’n isel neu wedi eich llethu yn gam cyntaf pwysig. Nid yw cael trafferth dod i ben neu brofi eich problemau iechyd meddwl eich hun yn golygu eich bod yn rhiant neu ofalwr gwael.

Mae'n hollol normal i fod yn bryderus a phoenus yn ystod cyfnodau anodd, ond y peth pwysicaf yw eich bod yn cydnabod hyn. Efallai eich bod yn teimlo wedi ymlâdd, yn emosiynol ac yn bryderus ac os yw'r teimladau'n parhau, efallai ei bod yn bryd dechrau meddwl am ffyrdd y gallwch edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn well, a gallai hyn gynnwys cael cefnogaeth broffesiynol. Isod, rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r Pum Ffordd at Les (Five Ways to Wellbeing) yn nodi'r camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch hefyd ddarllen cyngor defnyddiol 'awgrymiadau ar gyfer byw bob dydd' ar wefan elusen iechyd meddwl MIND, a ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl (Mental Health Foundation).

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 yma

Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â ffrind, cyd-riant neu ofalwr rydych chi'n ymddiried ynddo ddigon i ddweud sut rydych chi'n teimlo. Efallai y gall teulu, ffrindiau neu gydweithiwr eich cefnogi neu gynnig seibiant i chi? Mae digon o gymorth ar gael. Ni ddylech fyth deimlo fel bod yn rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin Iechyd Meddwl Oedolion am ragor o wybodaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: