Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddaf yn gwybod os oes rhywbeth o'i le?

Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn profi problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer, bydd y rhain yn datrys eu hunain gydag amser, tra bydd eraill angen cefnogaeth broffesiynol.

Mae'n gallu bod yn wirioneddol anodd fel rhiant i wybod a oes rhywbeth yn poeni eich plant, neu yntau newid hwyliau arferol neu newid / datblygu hormonaidd sydd yn achosi eu hymddygiad. Dyma ffyrdd o adnabod pryd mae rhywbeth o'i le. Maent yn bethau i edrych allan amdanynt:

  • Newidiadau arwyddocaol mewn ymddygiad, sydd yn anarferol i’ch plentyn.
  • Anhawster cysgu a chyfnodau parhaus o flinder yn ystod y dydd.
  • Mynd yn encilgar a thynnu eu hunain o sefyllfaoedd cymdeithasol .
  • Ddim bellach eisiau gwneud y pethau y maent fel arfer yn hoffi ei wneud.
  • Hunan-niweidio - gall hyn gynnwys gwneud toriadau bach trwy grafu neu ddefnyddio gwrthrych miniog, tynnu gwallt allan, gwylltio eithafol a tharo eu hunain.
  • Ddim yn gofalu am eu hunain - ddim eisiau ymolchi, glanhau eu dannedd a newid eu dillad.
  • Newid mewn arferion bwyta, amharodrwydd i fwyta, cuddio bwyd neu fwyta’n ormodol ac yna teimlo’n sâl neu daflu i fyny.
  • Mynegi teimladau o bryder a gofid yn rheolaidd, ddim eisiau cael eu gwahanu oddi wrth riant neu ofalwr, ddim eisiau mynychu'r ysgol na gadael cartref yn aml iawn.

Y peth pwysicaf i'w gofio yw mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau, ac os ydych chi'n poeni, ystyriwch a fu newid sylweddol yn eu hymddygiad sydd wedi para am dros gyfnod o amser. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu goleg; gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain; neu mewn perthynas â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn eu bywyd, gan gynnwys newidiadau oherwydd y pandemig.

Os ydych chi'n bryderus neu'n ansicr, mae llawer o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiyno. Mae Dewis Cymru yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’ch Canolfan Plant leol. Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:

Am ddolenni a gwasanaethau defnyddiol i'ch plentyn cliciwch yma.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: