Mae trafod sut rydych yn teimlo gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw yn aml yn gallu helpu i weld pethau'n wahanol. Efallai fod ganddyn nhw syniadau am sut i'ch helpu chi i newid pethau yn eich bywyd sy'n eich poeni. Unwaith y byddwch chi'n siarad â rhywun a hwythau’n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, gallant fod yno i’ch helpu a chynnig cefnogaeth barhaus.
Mae rhoi pethau mewn geiriau weithiau'n helpu. Mae'n dda dweud beth sydd ar eich meddwl. Gallai siarad â rhywun wneud i chi deimlo nad oes raid ichi ddelio gyda phethau ar eich pen eich hun a gwneud i bethau deimlo'n haws delio gyda nhw.
Rhai pethau i’w hystyried:
- Dewiswch rywun rydych yn teimlo'n ddiogel gyda nhw. (Gall fod yn oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, yn athro, meddyg teulu, rhieni / gofalwr, hyfforddwr chwaraeon, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, rhiant eich ffrind, cwnselydd neu nyrs ysgol, cymydog ac ati)
- Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei ddweud
- Ceisiwch ddewis amser i siarad â nhw pan nad ydyn nhw'n brysur yn gwneud rhywbeth arall
- Cofiwch y gallwch chi ddweud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rhannwch yr hyn rydych chi'n teimlo sy'n iawn ar y pryd.
- Gallwch ofyn iddynt ar ddechrau'r sgwrs i gadw'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn breifat a pheidio â'i rannu.
Sut i ddechrau sgwrs:
- Rydw i eisiau siarad â chi am sut rydw i'n teimlo
- "Mae hyn yn anodd i mi siarad amdano, ond rydw i wir eisiau dweud wrthoch chi sut rydw i wedi bod yn teimlo."
- Mae angen rhywfaint o gyngor arna’ i am rywbeth sy’n fy mhoeni.”
Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr sut i ddechrau sgwrs, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud:
- Ysgrifennu llythyr
- Sôn am rywbeth arall yn gyntaf
- Sôn am ffrind sy'n profi rhywbeth tebyg i chi yn gyntaf.