Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor hir fydd yn rhaid imi aros i gael cefnogaeth gan CAMHS?

Mae pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros yn dibynnu ar yr amseroedd aros yn eich ardal leol. Mae'r pandemig wedi effeithio ar yr amseroedd a gallant fod yn hirach na'r arfer. Gallwch ganfod pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros trwy gysylltu â'ch Tîm CAMHS lleol.

Mae'n bwysig cofio fod cefnogaeth ar gael wrth ichi aros am asesiad. Mae llawer o wasanaethau a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth dda, cyngor a help cynnar ichi. Mae sefydliadau cefnogaeth yn prysur ddod o hyd i ddulliau newydd o helpu ac o ddarparu eu gwasanaethau yn ddiogel, ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Yng Ngogledd Cymru mae nifer o sefydliadau a all gynnig cefnogaeth ichi. Gallwch ddod o hyd beth sydd ar gael yn eich ardal ar Dewis Cymru neu drwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn lleol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: