Neidio i'r prif gynnwy

Sut fydd CAMHS yn fy nghefnogi dan yr amgylchiadau presennol?

Os ydych wedi cael eich cyfeirio at CAMHS, cewch eich rhoi ar restr aros am eich apwyntiad cyntaf. Weithiau gelwir yr apwyntiad hwn yn Apwyntiad Dewis (Choice Appointment) (sef dechrau eich ‘asesiad’ yn aml). Does dim angen poeni, ac fel arfer dim ond sgwrs a geir fel y gall y tîm ddod i’ch adnabod chi a'r ffordd orau y gallant eich helpu.

Y newid allweddol yw y gall yr apwyntiad hwn ddigwydd yn rhithiol neu mewn rhai achosion dros y ffôn bellach, ond dim ond os ydych chi'n hapus â hyn a bod gennych y dechnoleg addas gartref i gael mynediad i'r system rithiol. Os na ellir cwblhau eich apwyntiad yn rhithiol neu dros y ffôn efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ond mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a'ch tîm lleol. Yn gyffredinol, bydd yr apwyntiad hwn yn digwydd mewn clinig CAMHS. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n cwrdd â chi yn eich ysgol, ond nid fel arfer gartref dros y cyfnod hwn. Pan fyddwch chi'n mynychu'ch apwyntiad, gofynnir ichi wisgo mwgwd, golchi neu i ddiheintio eich dwylo ac aros 2 fetr i ffwrdd oddi wrth y person agosaf.

Mae'n bwysig nodi y bydd gan rai Gwasanaethau CAMHS amseroedd aros hirach o ganlyniad i'r pandemig cyfredol. Os ydych chi ar y rhestr aros, bydd eich Tîm CAMHS lleol mewn cysylltiad cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael. Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n waeth yn ystod yr amser hwn, gallwch barhau i gysylltu â'r tîm i gael help a chyngor neu gysylltu â rhai o'r sefydliadau cymorth a restrir yng Nghwestiwn 3. Efallai y bydd eich meddyg teulu hefyd yn gallu helpu, a gwneud atgyfeiriad brys. Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn argyfwng, gallwch ffonio 101 i gael cyngor, eich heddlu lleol neu fynychu’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ar gyfer gofal brys. Gwnewch hynny mewn argyfwng yn unig.

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf byddwch fel arfer yn cwrdd ag un neu ddau aelod o dîm CAMHS. Os ydych chi o dan 16 oed, gellir gwahodd eich rhiant (rhieni), gwarcheidwad (gwarcheidwaid) neu ofalwr (ofalwyr) i ymuno am ran o'r cyfarfod hwn.

Pan fyddwch yn cyfarfod â'r tîm, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau. Mae hyn er mwyn helpu'r tîm i ddeall yr hyn rydych chi'n cael trafferth ag ef ac i gael gwell syniad o'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Tua diwedd y sesiwn, bydd y tîm yn siarad â chi am yr hyn sy'n digwydd nesaf a pha gefnogaeth maen nhw'n meddwl y gallai fod ei hangen arnoch. Cofiwch y gallwch chi hefyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus i ofyn cwestiwn, mae’n syniad da ysgrifennu'r rhain cyn i chi fynd i mewn neu siarad â rhiant / gwarcheidwad / gofalwr am yr hyn rydych chi eisiau ei wybod cyn i chi ddod.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo bod angen cefnogaeth arnoch gan eiriolwr (advocate). (Mae eiriolwr yn berson dibynadwy, weithiau'n weithiwr proffesiynol a all eich cefnogi i gael eich clywed a'ch helpu i gyfleu'r hyn rydych chi'n ei feddwl a'i deimlo). Bydd gwasanaethau eirioli proffesiynol ar gael yn eich ardal a dylai fod gan eich Tîm CAMHS wybodaeth am y rhain fel y gallant wneud cais ar eich rhan ichi gael cefnogaeth. Os mai Cymraeg yw eich iaith ddewisol yna dylech gael cynnig eich asesiad a'ch cefnogaeth yn yr iaith hon hefyd.

Yn ystod eich apwyntiad, mae’n bosib y bydd y tîm eisiau siarad am 'driniaeth' neu gyfarfod dilynol a elwir yn 'Apwyntiad Partneriaeth’ (Partnership Appointment) i drafod eich triniaeth. Y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw y byddwch chi yn rhoi cynllun yn ei le ar gyfer y gwaith y byddwn yn ei wneud gyda'n gilydd i’ch helpu i deimlo’n well. Bydd y Tîm yn trafod pryd y bydd angen ichi eu gweld eto neu a fyddant hwy yn cwblhau unrhyw rannau pellach o'ch asesiad.

Yn dilyn eich asesiad, byddwch yn derbyn llythyr, a fydd yn dweud wrthych beth y mae eich asesiad wedi'i ddangos a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Gall hyn gynnwys therapi a/neu feddyginiaeth. Os oes angen cymorth pellach arnoch, bydd y tîm yn ysgrifennu atoch gydag apwyntiad dilynol, gan ddisgrifio beth fydd yn digwydd nesaf.

Gellir cynnal apwyntiadau dilynol yn rhithiol, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o driniaeth sydd ei hangen arnoch.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: