Neidio i'r prif gynnwy

A fyddaf yn gallu cael epidwral?

Byddwch – Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth epidwral.

  • Os bydd yna oedi cyn y gellir gosod epidwral oherwydd nad yw’r anesthetydd ar gael, bydd y fydwraig yn dweud wrthych ac yn gwneud ei gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Gall y fydwraig archwilio opsiynau eraill gyda chi i leddfu’r poen tra byddwch yn aros.
  • Yn achos menywod sy’n dangos symptomau neu sydd wedi cael cadarnhad bod ganddynt y coronafeirws, ac sy’n ystyried cael epidwral, byddem yn eu cynghori i ofyn am gael gosod yr epidwral yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Y rheswm am hynny yw y bydd gosod yr epidwral yn cymryd mwy o amser oherwydd y ffordd y bydd angen i’r staff weithio mewn ystafelloedd os ceir amheuaeth neu os cafwyd cadarnhad bod y coronafeirws yn bresennol.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: