Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau mamolaeth yn ystod COVID-19 - cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd 23 Gorffennaf 2020

Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod dryslyd, ansicr ac ofnus. Mae’r ffaith ein bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd am y modd y caiff eich gofal ei ddarparu’n ein tristáu, a hoffem eich sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei ystyried yn ofalus ac yn cael ei wneud er mwyn eich diogelu chi, eich babi, eich teulu a’n staff. Mae diweddariadau ynghylch gwasanaethau i’w gweld ar dudalennau Facebook ein gwasanaethau mamolaeth, sef ‘Boliau a Babanod Bronglais Bumps and Babies’, ‘Glangwili Bumps and Babies’, ‘Pembrokeshire Antenatal Hub’, ‘Withybush Midwife Led Unit’.

Apwyntiadau gyda’r bydwragedd cymunedol cyn geni

Os byddwch yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb, rydym yn argymell yn gryf y dylech fynd iddo. Ni fydd y tîm mamolaeth yn argymell apwyntiad oni bai bod yr angen am yr apwyntiad yn fwy na’r risg i chi o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Rydym yn gwirio tymheredd menywod bob tro y maent yn dod i’r ysbyty a/neu i glinigau ac rydym yn gofyn i chi wisgo masgiau. Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau i gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch presenoldeb partneriaid mewn apwyntiadau arferol cyn geni, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod modd i hynny ddigwydd mor ddiogel ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, nid yw’r drefn honno wedi dechrau eto. Peidiwch â mynychu eich apwyntiad gyda’ch partner heb wirio a yw’r newidiadau wedi cael eu cyflwyno.

Cliciwch yma i gael cyngor gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr ynghylch y coronafeirws yn ystod beichiogrwydd.

Apwyntiadau yn yr ysbyty cyn geni

Os byddwch yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb yn yr ysbyty, rydym yn argymell yn gryf y dylech fynd iddo. Ni fydd y tîm mamolaeth yn argymell apwyntiad wyneb yn wyneb oni bai bod yr angen am yr apwyntiad yn fwy na’r risg i chi o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Byddwn yn gwirio eich tymheredd ac yn gofyn i chi wisgo masg.

Sganiau

Oes unrhyw gyngor ar gael ynghylch hunanynysu os oes gennych ddiabetes?

  • Mae gan Diabetes UK gyngor ardderchog ar ei wefan ynghylch hunanynysu os oes gennych ddiabetes.
  • Mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Diabetes os oes gennych unrhyw bryderon.

Pwysigrwydd gofyn am gyngor meddygol os ydych yn pryderu

Os ydych yn pryderu am eich lles chi neu am les eich babi, gan gynnwys symudiadau eich babi, mae’n hanfodol eich bod yn gofyn yn syth am ofal a chyngor meddygol.

Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd, yn enwedig os ydych yn pryderu am eich beichiogrwydd ac yn poeni am fynd i mewn i’r ysbyty, ond rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau nad yw menywod a babis iach yn dal y coronafeirws. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dod i’r ysbyty pan fydd angen gofal arnoch chi ac ar eich babi. Os oes gennych unrhyw bryderon, ffoniwch.

Caerfyrddin

01267 248682

Aberystwyth

01970 635633

Sir Benfro

Bydwragedd unigol (9AM-5PM) a’r gwasanaeth brysbennu ar gyfer mamolaeth ar ôl 5PM 01267 248682

Erbyn hyn mae’r uned ddydd ar gyfer asesu wedi symud i’r ward cyn geni. Bydd y fydwraig ar y llinell frysbennu’n dweud wrthych ble i fynd. Nodwch y bydd angen i chi fynychu apwyntiadau ar eich pen eich hun, ond mae croeso i’ch partner ymuno drwy ddefnyddio’r seinydd ffôn ar eich ffôn symudol chi.

Eich derbyn i’r ysbyty cyn geni

Yr esgor a’r geni

Gwybodaeth am yr esgor ar gyfer menywod y ceir amheuaeth neu y cafwyd cadarnhad bod ganddynt y coronafeirws

Geni gartref

Cychwyn yr esgor

Toriad Cesaraidd a gynlluniwyd

Aros ar y ward ar ôl geni

Gofal gartref ar ôl geni

Eich babi

Gofalu am eich iechyd meddwl

Mae cynnydd cyffredinol mewn lefelau gorbryder yn rhywbeth sydd i’w ddisgwyl yn y sefyllfa sydd ohoni. Yn aml, gall gwneud rhywbeth mor syml â chydnabod yr anawsterau helpu i ddileu rhywfaint o orbryder. Felly, mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn siarad â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl neu am lefelau eich gorbryder.

Parcio

Mae meysydd parcio pob safle ar agor. Oherwydd bod llai o bobl yn dod i’r ysbyty, mae digon o leoedd parcio ar gael.

Adnoddau defnyddiol ychwanegol

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr wedi llunio tudalen wybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyfer menywod beichiog, sy’n cynnwys cwestiynau cyffredin. Mae’r dudalen i’w gweld yma.

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi creu gwefan ddefnyddiol ar gyfer menywod beichiog.

Lleddfu poen yn ystod yr esgor.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: