Neidio i'r prif gynnwy

A fyddaf yn gallu parhau i gael help i roi'r gorau i ysmygu?

Byddwch. Rhoi’r gorau i ysmygu yw’r cam pwysicaf y gallwch ei gymryd i leihau’r risg o gamesgor, dioddef marw-enedigaeth neu gyfyngu ar dwf eich babi.

Mae’n arbennig o bwysig yn ystod y pandemig hwn eich bod chi a’ch partner yn rhoi’r gorau i ysmygu; mae ysmygu wedi’i gysylltu â chanlyniadau gwaeth ymhlith y sawl sy’n dal y feirws. Mae ysmygu yn niweidio’r system imiwnedd ac yn lleihau diogelwch rhag heintiau megis y coronafeirws. Felly, mae ysmygwyr yn wynebu risg uwch o ddioddef:

  • Heintiau acíwt sy’n effeithio ar y system anadlu
  • Heintiau sy’n para mwy o amser
  • Haint sy’n fwy difrifol nag y byddai i rywun nad yw’n ysmygu.

Gallwch barhau i’ch cyfeirio eich hun at wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu, neu gall eich bydwraig barhau i wneud hynny. Bydd y cymorth a gewch yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei gynnig dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd y gwasanaeth yn parhau i’ch helpu i gael meddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu, os oes arnoch ei hangen. Mae profion carbon monocsid wedi dod i ben nes y clywch yn wahanol.

Cliciwch yma os hoffech eich cyfeirio eich hun at y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu. 

Neu ffoniwch linell gymorth Helpa Fi i Stopio ar 08082504116

Neu tecstiwch HMQ i 80818

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: