Yn rhan o’r cynllun adfer wedi COVID, mae’r gwasanaethau llygaid hanfodol canlynol yn cael eu cynnal ar draws y pedwar safle yn y bwrdd iechyd. Er mwyn sicrhau arfer diogel yn unol â’r canllawiau a argymhellir, mae capasiti’n llai ac rydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i’r holl gleifion a atgyfeiriwyd sy’n gleifion R1 brys (cleifion y gallai unrhyw oedi olygu eu bod yn dioddef niwed difrifol nad oes modd ei ddadwneud).
Newidiadau sydd ar waith i wasanaethau:
Bwriedir cynyddu capasiti yn raddol ar draws safleoedd gan gadw at y canllawiau cenedlaethol. Bwriedir ailddechrau cynnal llawdriniaethau ar draws safleoedd. Rydym yn parhau i wirio bod yr holl gleifion ar y llwybr cywir ar gyfer eu hanghenion presennol ac yn parhau i flaenoriaethu achosion yn glinigol yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
Dylech gyfeirio at eich llythyr at glaf i gael y manylion cyswllt, neu gysylltu â thîm y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion ar 0300 0200159 neu drwy ebost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk