Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal gwasanaeth cyfyngedig ar bob un o’r pedwar safle yn y bwrdd iechyd. Mae capasiti’n llai oherwydd y rheoliadau ynghylch cadw pellter cymdeithasol er mwyn cynnal arfer diogel.
Bydd yr holl atgyfeiriadau brys a’r atgyfeiriadau brys lle ceir amheuaeth o ganser yn parhau i gael blaenoriaeth, a byddant yn cael eu gwirio fesul achos.
Bydd yr holl atgyfeiriadau arferol yn cael eu brysbennu o safbwynt clinigol ac yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros yn briodol. Ar hyn o bryd, bydd atgyfeiriadau brys ac atgyfeiriadau brys lle ceir amheuaeth o ganser yn cael blaenoriaeth.
Bydd pawb sy’n cael eu hatgyfeirio yn cael cynnig apwyntiad rhithwir dros y ffôn oni bai eu bod yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth o safbwynt clinigol ac yn gleifion y mae arnynt angen apwyntiad wyneb yn wyneb, lle caiff cyfarpar diogelu personol ei ddefnyddio yn ôl yr angen.
Mae adolygiadau parhaus o’r gwasanaeth yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Byddwn yn parhau i ddarparu clinigau rhithwir dros y ffôn ac apwyntiadau wyneb yn wyneb (lle bo’n briodol).
Rydym wrthi’n ystyried sut y gallem gyflwyno platfformau digidol ychwanegol yn raddol er mwyn gallu cynnig opsiynau eraill ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol. Bydd gwasanaethau digidol yn helpu i sicrhau bod gofal hanfodol yn gallu parhau, ac yn creu gwasanaethau mwy hyblyg ar yr un pryd.
Dylech gyfeirio at eich llythyr at glaf i gael y manylion cyswllt, neu gysylltu â thîm y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion ar 0300 0200159 neu drwy ebost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk