Bydd y mwyafrif o bobl yn dioddef hwyliau isel ar wahanol adegau yn eu bywyd, a all fod o ganlyniad i ddigwyddiad penodol neu bod pethau’n mynd o chwith. Mae’r teimladau hyn fel arfer yn gwella o fewn pythefnos er y gallai hyn gymryd hirach ar ôl profi digwyddiad trawmatig neu fod yn sâl.
Dyma rai arwyddion cyffredin o hwyliau isel:
- teimlo’n drist, yn grac, yn bigog, yn isel
- diffyg egni neu flino’n hawdd
- colli diddordeb neu fwynhad yn y pethau y byddech fel arfer yn eu mwynhau
- anhawster canolbwyntio ar dasgau neu gynhyrfu mwy
- dim teimlo mor dda am eich hun (colli hunan-hyder)
- cwsg llawn tarfu a diffyg chwant bwyd
- yfed mwy o alcohol
Gofalu am eich hwyliau a’ch llesiant
Gall gwella o salwch newid ein harferion a'n gweithgareddau arferol. Fe allwn ddarganfod bod y pethau rydyn ni'n eu gwneud fel arfer i ofalu am ein llesiant wedi dod yn anodd, yn enwedig pan mae canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn ein rhwystro rhag cyfarfod a siarad wyneb yn wyneb ag eraill.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, gall fod yn ddefnyddiol gwneud tern ddyddiol sy’n cynnwys cydbwysedd gweithgareddau:
- rhoi teimlad o gyflawni
- helpu i deimlo’n agos a mewn cysylltiad ag eraill
- gallu gwneud rhywbeth er pleser yn unig
Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau a allai helpu eich llesiant:
- Anwesu anifail, cerdded ci, gwrando ar natur
- Coginio pryd o fwyd, pobi cacen
- Trwsio rhywbeth, gwneud rhywbeth newydd, addurno
- Breuddwydio, myfyrio, gweddïo, ymarferion ymlacio
- Mynd am gerddad, gwneud ioga
- Tynnu llun neu beintio, tynnu llun â chamera, gwneud albwm lluniau, gwnïo neu wau
- Gwrando ar eich hoff gerddoriaeth, canfod cerddoriaeth newydd, gwrando ar y radio, canu, chwarae offeryn
- Cymryd baddon neu gawod, golchi eich gwallt, peintio eich ewinedd, eistedd yn yr haul
- Tacluso ystafell, glanhau’r oergell, llwytho/dadlwytho’r peiriant golchi llestri, golchi dillad, tacluso cwpwrdd
- Helpu ffrind, gwneud rhodd, dysgu sgil i rywun, gwneud rhestr o’ch pwyntiau da
- Garddio, plannu rhywbeth, casglu blodau, eistedd yn yr awyr agored, agor ffenest
- Gwylio’r teledu, gwylio ffilm, gwylio fideos ar-lein
- Cysylltu â ffrind, gwneud galwad fideo, ymuno â chwis ar-lein
- Dysgu sgil newydd, dysgu ffaith newydd, gwlio fideo tiwtorial
- Darllen llyfr, darllen papur newydd, pori gwefannau
- Ysgrifennu llythyr, ysgrifennu carden, ysgrifennu eich CV, dechrau ysgrifennu llyfr
Os yw eich hwyliau dal yn isel ymhen 2-4 wythnos, neu os ydych wedi sylwi eich bod wedi dechrau yfed, ‘smygu neu ddefnyddio cyffuriau i ymdopi, byddai’n ddefnyddiol siarad â’ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall am gymorth ychwanegol.
Mae gwybodaeth hunan-gymorth pellach ar hwyliau isel ar gael yma: http://www.iawn.wales.nhs.uk/home