Yn dilyn unrhyw salwch byddwch yn teimlo poenau neu flinder a byddwch yn dueddol o orffwys neu fod mwy nag arfer yn y gwely. Yn anffodus, wrth dreulio llawer o amser yn gorffwys neu yn y gwely, gallwch golli cyhyr a datgyflyru a dyna pham ei bod yn bwysig ceisio ail-gryfhau’r cyhyrau hynny cyn gynted â phosib. Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig nag arfer a phrofi rhywfaint o ddiffyg anadl, felly y peth gorau yw cymryd eich amser a cheisio gwneud ychydig bob dydd.
Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch hun? |
Wrth i chi ddechrau adfer mae symud yn allweddol, a symud ychydig ond yn aml sydd orau. Bydd ailgyflwyno gweithgaeddau dyddiol arferol yn eich helpu i adennill cryfder a gweithrediad. Wrth i chi ddechrau cryfhau gallai mynd am dro fach fer yn yr awyr agored helpu i adnerthu eich cyhyrau a chodi eich hwyliau, gallwch gynyddu’r pellter bob yn dipyn wrth i chi gryfhau. Mae’n bwysig dewis modd o ymarfer eich corff yr ydych yn ei fwynhau.
Mae Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi wedi cynhyrchu rhestr o adnoddau a allai ei helpu i ddod mor actif â phosib ac i gyflawni hyn yn ddiogel yn eich cartref. Mae’ adnoddau hyn yn adnoddau ar-lein. Os nad oes gennych fynediad at y we, gobeithiwn y gallwch ofyn i berthynas, cymydog neu grŵp cefnogaeth gwirfoddol i’w hargraffu i chi. Cliciwch yma i weld yr adnoddau (agor mewn dolen newydd).
Cofiwch, mae’n bwysig cadw’n ddiogel wrth wneud unrhyw weithgaredd: