Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli eich blinder ac egni

Efallai y gwelwch nad oes gennych gymaint o egni ar ôl bod yn sâl ac efallai y byddwch yn blino'n gyflym iawn. Mae hyn yn normal, gadewch amser i'ch hun a'ch corff wella.

Ceisiwch gael trefn ddyddiol, os nad yw eich trefn flaenorol yn bosib, gosodwch un newydd am y tro a'i dilyn a newid yn ôl i'ch trefn arferol yn araf pan allwch chi. Cofiwch, peidiwch â rhuthro!

Mae adferiad yn gydbwysedd rhwng gorffwys a gweithgaredd. Rhowch gynnig ar ychydig bach o weithgaredd ysgafn yn gyntaf ac yna gorffwyswch ychydig. Ailadroddwch hyn. Dewch o hyd i'r lefel sy'n gyffyrddus i chi - efallai y byddwch chi'n fwy blinedig y diwrnod ar ôl gwneud gweithgaredd, felly arhoswch i weld sut rydych chi'n teimlo cyn gwneud mwy. Byddwch yn realistig ac yn garedig â chi'ch hun.

Blaenoriaethu

Mae gan bob un ohonom bethau yr ydym angen eu gwneud ac eisiau eu gwneud yn ystod ein dydd. Ar ôl bod yn sâl, mae'n ddefnyddiol blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y tasgau sydd bwysicaf i chi.

Ceisiwch wneud rhestr o'r pethau yr hoffech chi eu gwneud heddiw neu'r wythnos hon. Rhestrwch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys cawod, gwisgo a bwyta, gan fod y rhain i gyd yn defnyddio egni hefyd.

Ar gyfer eich rhestr, gofynnwch hyn i’ch hun:

  • Beth sy’n rhaid gwneud?
  • Beth ydw i’n mwynhau gwneud neu eisiau gwneud?
  • Beth all bobl eraill wneud?
  • Beth all aros tan amser arall?

Cynllunio a gwneud pethau’n raddol

Gall cynllunio a gwneud pethau’n raddol eich helpu i gyflawni eich gweithgareddau trwy reoli eich lefelau blinder ac egni. Gall amserlen a graddio tasgau yn ôl pa mor anodd ydynt i chi eich helpu i gynllunio eich diwrnod a’ch wythnos.

Un ffordd o gynllunio a gwneud pethau’n raddol yn ystod y diwrnod a’r wythnos yw defnyddio’r system goleuadau traffig. Gwnewch tasgau hawdd ac anoddach am yn ail.

COCH – Gweithgareddau anodd

AMBR – Gweithgareddau hawdd

GWYRDD – Gorffwys

Cliciwch yma i gael y daflen goleuadau traffig - at ddibenion argraffu (PDF, 379KB) (agor mewn dolen newydd)

Cliciwch yma i gael y daflen cynllun dydd - at ddibenion argraffu (PDF, 386KB) (agor mewn dolen newydd)

Mwy o awgrymiadau a allai helpu

  • Gwnewch y pethau pwysicaf yn gyntaf
  • Rhannu tasgau yn dasgau llai – osgowch ceisio gwneud popeth mewn un tro
  • Canolbwyntiwch ar un peth ar y tro
  • Stopiwch cyn ei gorwneud hi, byddwch yn ymwybodol o’r hyn allwch ymdopi ag ef a gwrandewch ar eich corff
  • Caniatewch i’ch hun i gymryd seibiant – gwnewch ychydig yn aml
  • Cydbwyswch weithgarwch corfforol, gweithgarwch meddwl a gorffwys
  • Paratowch at ddigwyddiadau mawr trwy orffwys cymaint â phosib o flaen llaw.
  • Does dim angen i chi wneud pethau drwy’r amser – mae gwneud dim byd bob hyn a hyn yn iawn.
  • Byddwch yn garedig i’ch hun
  • Gosodwch gnodau y gallwch eu cyflawni
  • Ceisiwch ddewis tasgau y gallwch stopio unrhyw bryd rhag ofn bod angen i chi gymryd seibiant.
  • Dysgwch ddweud NA

Beth os nad ydw i’n gwella?

Os oes dal gennych bryderon ynghylch eich lefelau egni, eich llesiant corfforol ach llesiant meddwl, dylech geisio cyngor eich Meddyg Teulu. Gall eich Meddyg Teulu wirio a oes unrhyw achos arall am y symptomau parhaus a’ch cyfeirio at wasanaethau eraill yn ôl yr angen.

Gall eich therapydd galwedigaethol cymunedol lleol eich helpu ymhellach gyda rheoli eich blinder:

Sir Gaerfyrddin 

Llesiant Delta  

0300 333 2222

Ceredigion

Porth Gofal

01545 574000

Sir Benfro

De

01437 774090 

Gogledd

01437 773068

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: