Neidio i'r prif gynnwy

Cyrchu Gwasanaethau Radioleg

Gallwch gael eich cyfeirio at yr Adran Radioleg gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd nyrsio, podiatrydd neu ffisiotherapydd).

Pelydr X Cyffredin - gwasanaeth cerdded i mewn

Os oes angen pelydr-X arferol arnoch a bod eich meddyg teulu wedi rhoi ffurflen i chi, rydym yn cynnig gwasanaeth cerdded i mewn. Os ydych wedi cael ffurflen atgyfeiriad papur, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â hyn gyda chi.

Mae ein gwasanaeth cerdded i mewn ar gael ar y safleoedd canlynol:

  • Ysbyty Bronglais*

* Pelydr-x y frest yn unig

Dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 4pm

  • Ysbyty Glangwili

7 days a week 09:30am to 7:30pm

  • Ysbyty Tywysog Philip

Dydd Llun i dydd Gwener, 8am i 7:30pm

  • Ysbyty Dinbych-y-Pysgod

Dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 4:30pm

  • Ysbyty Llwynhelyg Hospital

Dydd Llun i dydd Gwener, 08:30am i 7:30pm

Ysbyty Llanymddyfri - apwyntiad yn unig

Rydym yn rhedeg gwasanaeth cyfyngedig yn Ysbyty Llanymddyfri. Pan fyddwn yn derbyn atgyfeiriad ar eich cyfer a hwn yw’r ysbyty agosaf a mwyaf cyfleus, bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch. Arhoswch am eich apwyntiad cyn dod i'r adran.

CT, MRI, RNI ac Uwchsain

Os oes angen sgan CT, MRI neu Uwchsain arferol arnoch, byddwn yn derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith y cawn eich atgyfeiriad bydd yn cael ei asesu, a bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch yn y post yn dibynnu ar y brys clinigol.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: