Mae ein tîm o Radiolegwyr Ymgynghorol, Radiograffwyr, Sonograffwyr ac Ymarferwyr Cynorthwyol yn cynnal archwiliadau delweddu sy'n helpu gyda diagnosis, triniaeth a monitro clefydau ac anafiadau
Mae’r adran Radioleg yn cynnig amrywiaeth o archwiliadau delweddu fel:
Ein horiau gwaith arferol yn yr adran Radioleg yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.45am - 5.00pm ar draws pob un o’n pedwar ysbyty. Fodd bynnag, rydym ar agor 24 awr ar gyfer argyfyngau sy'n dod trwy adrannau damweiniau ac achosion brys, Unedau Mân Anafiadau a wardiau ysbytai.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.45am a 5.00pm ar y manylion cyswllt canlynol:
Adran Radioleg, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, SA31 2AF
Rhif ffôn: 01267 227645
Adran Radioleg, Ysbyty Tywysog Philip, Ffordd Dafen, Llanelli SA14 8QF
Rhif ffôn: 01554 781116 neu 01554 871117
Adran Radioleg, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, SY23 1ER
Rhif ffôn: 01970 635681
Adran Radioleg, Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PZ
Rhif Ffôn: 01437 773385
Gallwch gael eich cyfeirio at yr adran Radioleg gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd nyrsio, podiatrydd neu ffisiotherapydd).
Os oes angen pelydr-X arferol arnoch a bod eich meddyg teulu wedi rhoi ffurflen i chi, rydym yn cynnig gwasanaeth cerdded i mewn. Os ydych wedi cael ffurflen atgyfeiriad papur, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â hyn gyda chi.
Mae ein gwasanaeth cerdded i mewn ar gael ar y safleoedd canlynol:
Ysbyty Bronglais*
*Pelydr-x y frest yn unig
Dydd Llun i dydd Gwener, 9.00am i 4.00pm
Ysbyty Glangwili
Saith diwrnod yr wythnos, 9.30am i 7.30pm
Ysbyty Tywysog Philip
Dydd Llun i dydd Gwener, 8.00am i 7.30pm
Ysbyty Dinbych-y-Pysgod
Dydd Llun i dydd Gwener, 9.00am i 4.30pm
Ysbyty Llwynhelyg Hospital
Dydd Llun i dydd Gwener, 8.30am i 7.30pm
Os oes angen sgan CT, MRI neu Uwchsain arferol arnoch, byddwn yn derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith y cawn eich atgyfeiriad bydd yn cael ei asesu, a bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon atoch yn y post yn dibynnu ar y brys clinigol.
Diweddariad gwasanaeth
O ddydd Llun 3 Awst 2026, ni fydd gwasanaethau pelydr-X yn cael eu darparu mwyach yn ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro.
Bydd cleifion sydd angen pelydr-X yn parhau i allu cael mynediad at wasanaethau ym mhob un o bedair prif ysbyty Hywel Dda: Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli, a Llwynhelyg yn Hwlffordd. Bydd angen i gleifion sydd angen pelydr-X ddilyn y cyngor a roddir gan y gweithiwr iechyd proffesiynol.
Bydd gwasanaethau radioleg ddiagnostig argyfwng 24/7 yn parhau i gael eu darparu ym mhob un o'r pedwar prif ysbyty ar draws Hywel Dda.
Pam mae hyn yn newid
Mae newidiadau i wasanaethau pelydr-X yn ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro yn rhan o benderfyniadau a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2026, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Mae angen i'r gwasanaethau radioleg newid oherwydd cynnydd sylweddol yn y galw ar draws pob ysbyty, prinder staff sy'n cyfyngu ar y gallu i ddarparu gwasanaethau dros oriau hirach ac mewn sawl lleoliad, a heriau wrth gynnal offer cyfoes ar draws safleoedd niferus.
Mae'r offer delweddu yn Ysbyty Llanymddyfri wedi bod allan o ddefnydd ers mis Rhagfyr 2025, yn dilyn uwchraddiad i'r system TG Radioleg a orchmynnwyd ar lefel genedlaethol. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae hyn wedi'i chael yn lleol ac yn gwerthfawrogi'r amynedd a'r ddealltwriaeth a ddangoswyd gan y gymuned. Hefyd, daeth y contract ar gyfer yr offer prosesu sydd ar y safle ar hyn o bryd yn Ysbyty Llanymddyfri ac yn Ne Sir Benfro i ben ar 31 Gorffennaf.
Gan gydnabod maint a chymhlethdod rhaglen y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, cyflwynir newidiadau fesul cam dros nifer o flynyddoedd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn rhoi gwybod i gleifion wrth i'r newidiadau gael eu gweithredu.