Neidio i'r prif gynnwy

Pum ffordd at les - Os nad yw pethau'n mynd yn dda

Os nad yw pethau'n mynd yn dda, gofynnwch am help...

Os ydych yn pryderu am eich cyflwr meddwl ac rydych yn teimlo'n isel neu'n bryderus, mae'n syniad da dechrau siarad am eich teimladau â ffrindiau a'ch teulu. Pe bai'n well gennych, gallwch ymweld â'ch meddyg teulu. Peidiwch â theimlo cywilydd am sut rydych yn teimlo.

Pryderon am iechyd meddwl yw'r rheswm mwyaf cyffredin ond un dros ymweld â meddyg, felly nid ydych ar eich pen eich hun. Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor gan y sefydliadau isod:

Galw Iechyd Cymru

Rhif: 111

www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk

 

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned

Rhif: 0800 132 737 (Rhadffôn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Neu tecstiwch ‘help’ i: 81066
www.callhelpline.org.uk

Mae'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth emosiynol cyfrinachol, a gwybodaeth/taflenni am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind ddefnyddio'r gwasanaeth. 

 

Y Samariaid

Rhif: 0808 164 0123 (7pm-11pm)
www.samaritans.org

Llinell gymorth genedlaethol yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol i unrhyw un sy'n teimlo gofid neu anobaith, gan gynnwys y rheini a allai arwain at hunanladdiad. Gellir trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn swyddfeydd lleol.

 

Llinell Wybodaeth Mind

Rhif: 0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 6pm)
www.mind.org.uk

Mae Llinell Wybodaeth Mind yn cynnig help cyfrinachol i bobl sy'n ffonio am amrywiaeth o faterion iechyd meddwl.

 

WWAMH – Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru

Rhif: 01267 245572

www.wwamh.org.uk

Seflydliad sy’n darparu cymorth ymarferol a gwybodaeth i sefydliadau gwirfoddol, gofalwyr ac unigolion sydd wedi neu yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ac yn byw o fewn Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol – Hyfforddiant Rheoli Straen

Rhif: 07816 0646434

E-bost: stress.control-reservations@wales.nhs.uk

Cwrs 6 wythnos i ddysgu strategaethau i reoli iselder, hunan barch isel, gwella’ch cwsg, gwynebu pethau sy’n codi ofn arnoch a rheoli panig.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: