Dros wyliau haf yr ysgol rydym yn cynnal clinigau brechu dal fyny mewn lleoliadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Os nad ydych chi neu eich plentyn (5 oed a throsodd) wedi cael eich holl frechlynnau (gweler amserlen imiwneiddio arferol Cymru yma), ffoniwch ein hyb cyfathrebu ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 neu ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad.
Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.
Os ydych yn gofalu am blant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt mewn addysg:
I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech i’ch plentyn dderbyn y brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu, llenwch y ffurflen hon (agor mewn dolen newydd) neu ffoniwch 0300 303 8322 er mwyn i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.