Neidio i'r prif gynnwy

Brechu rhag y ffliw tymhorol

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn ac mae cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn.

Mae'n cael ei achosi gan firws sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.

Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. Bydd y rhai 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau yn bennaf mewn meddygfeydd, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu rhai nhw yn yr ysgol.

Bydd y broses o gyflwyno brechlyn y ffliw ymhlith oedolion yn dechrau ym mis Hydref. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu os ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i'ch cynghori.

Dyma restr o bwy sy'n gymwys yr hydref a'r gaeaf hwn: 

Brechiad rhag y ffliw 
  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2024   
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)    
  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)     
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol     
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)     
  • Menywod beichiog    
  • Gofalwyr sy’n 16 mlwydd oed ac yn hŷn   
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan     
  • Pobl ag anabledd dysgu    
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen    
  • Yr holl staff mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid  
     
Staff y GIG

Os ydych chi'n dod i gysylltiad â chleifion yn rheolaidd, rydych chi'n gymwys i gael y brechlyn ffliw tymhorol a'r brechlyn COVID-19 yr hydref. Rydym yn argymell yn gryf bod staff cymwys yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosibl.

Bydd brechiadau ffliw i staff ar gael mewn sawl ffordd i helpu i’w wneud mor hygyrch â phosibl.

Ydych chi wedi cael eich brechlyn ffliw neu COVID-19 gan eich meddyg teulu?

Os ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac wedi cael eich brechlyn ffliw a/neu COVID-19 yn eich practis meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol, sicrhewch eich bod yn hysbysu iechyd galwedigaethol cyn gynted â phosibl fel y gellir diweddaru eich cofnod staff yn unol â hynny. 


Gweithwyr cartrefi gofal a gofal cymdeithasol

Mae brechiad ffliw ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cymdeithasol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sy’n agored i niwed yn glinigol, yn ogystal â gofalwyr, yn cael ei annog yn gryf.

Dylai eich cyflogwr ddarparu mynediad i’r brechlyn ffliw i chi, fodd bynnag efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim o dan gynllun cyflenwol y GIG os nad yw’ch cyflogwr yn darparu cynllun brechu rhag y ffliw.

Gall eich cyflogwr eich cefnogi i sicrhau eich bod yn cael brechiad ffliw. Gallant wneud hyn drwy drefnu i chi gael eich brechu yn eich gweithle neu drwy drefnu i chi gael eich brechu oddi ar y safle. Dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi pa gynllun y mae'n ei redeg, neu, lle bo'n berthnasol, eich cynghori i ddefnyddio cynllun cyflenwol y GIG. Os na, gofynnwch iddynt.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: