Anogir pobl ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2007 ac 31 Awst 2008 i wneud apwyntiad i gael eu brechiad MenB, fel rhan o raglen genedlaethol wedi'i thargedu.
Mae'r brechlyn yn helpu i amddiffyn rhag clefyd meningococcal B, haint bacteriol prin ond difrifol a all arwain at lid yr ymennydd a septisemia.
Mae pobl ifanc sy'n gymwys yn cael cynnig dau ddos o'r brechlyn MenB, gyda'r ail ddos yn cael ei roi o leiaf 28 diwrnod ar ôl y cyntaf er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl.
Grwpiau cymwys ychwanegol
Mae'r brechlyn hefyd ar gael i:
Os ydych yn gymwys, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 303 8322 neu anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eich apwyntiad.
Os ydych wedi symud i astudio y tu allan i ardal Hywel Dda yn y DU ac yn dymuno cael eich ail ddos yno, ewch i'r wefan berthnasol am ragor o fanylion:
Os ydych wedi symud i astudio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac yn dymuno cael eich ail ddos yma, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 303 8322 neu anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eich apwyntiad.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ewch i dudalen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechlyn MenB i bobl ifanc (agor mewn dolen newydd).