Mae symptomau cyffredin endometriosis yn cynnwys y canlynol:
- Mislifoedd poenus
- Poen yn y pelfis
- Poen yn ystod cyfathrach rywiol
- Poen wrth ysgarthu, yn aml yn ystod mislifoedd
- Poen wrth basio dŵr, yn aml yn ystod mislifoedd
- Anhawster beichiogi ynghyd â'r symptomau uchod Efallai na fydd gan rai menywod ag endometriosis unrhyw symptomau arwyddocaol. Nid haint yw endometriosis; nid yw’n heintus, ac nid canser ydyw.
Ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn sylwi ar unrhyw rai o'r canlynol:
- Gwaedu anarferol o'r wain, gwaedu rhwng eich mislifoedd, neu waedu o'r wain os ydych wedi bod trwy'r menopos.
- Rhedlif anarferol o'r wain sy'n parhau.
- Newidiadau i olwg arferol eich fwlfa (eich organau cenhedlu allanol) neu wain, neu os bydd lwmp, dolur neu gosi parhaus yn datblygu yn yr ardal.
- Poen pan fyddwch yn pasio dŵr neu angen pasio dŵr yn aml.
- Chwydd parhaus yn y bol neu deimlo'n chwyddedig.
- Poen neu dynerwch yn y bol neu o amgylch yr ardal rhwng eich cluniau (y pelfis).
- Dim archwaeth neu deimlo'n llawn yn gyflymach nag arfer ar ôl bwyta.