Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n achosi camweithrediad y bledren?

  • Mae anymataliaeth straen fel arfer yn ganlyniad i'r cyhyrau a ddefnyddir i'ch atal rhag pasio dŵr yn gwanhau neu'n cael eu niweidio. Gall unrhyw bwysau ychwanegol sydyn ar y bledren achosi i wrin ollwng.
  • Gall gorweithgarwch y cyhyrau sy'n rheoli'r bledren achosi'r ymdeimlad o fod angen pasio dŵr ar frys neu'n aml, a phasio dŵr heb allu ymatal rhag gwneud hynny.
  • Weithiau nid yw'r rheswm dros gyhyr gorweithredol yn glir ond mae'n bosibl bod yna gysylltiad ag yfed gormod o hylifau a all lidio'r bledren, gan gynnwys caffein, alcohol a diodydd swigod, peidio ag yfed digon o hylifau, bod yn rhwym, a bod â heintiau wrin. Mewn achosion prin gall gael ei achosi gan diwmor yn y bledren.
  • Gall rhwystr yn eich pledren, sy'n ei atal rhag gwagio'n llwyr, achosi i'ch pledren beidio â gwagio'n llwyr. Gallai hyn gael ei achosi gan, er enghraifft, chwarren brostad chwyddedig neu gerrig yn y bledren.
  • Gall problem yn ymwneud â'r bledren o'r adeg y bydd unigolyn yn cael ei eni, anaf i'r asgwrn cefn, neu dwll bach, tebyg i dwnnel, a all ffurfio rhwng y bledren a man cyfagos (ffistwla) achosi anallu llwyr a pharhaus i reoli'r weithred o basio dŵr.
  • Gall amgylchiadau penodol gynyddu’r siawns o anymataliaeth wrinol, gan gynnwys y menopos, beichiogrwydd a genedigaeth drwy’r wain, bod yn ordew, meddu ar hanes teuluol o anymataliaeth, a gall anymataliaeth ddod yn fwy cyffredin weithiau wrth fynd yn hŷn.
  • Gall niwed i'r bledren neu fan cyfagos yn ystod llawdriniaeth, neu driniaethau penodol, effeithio ar weithrediad y bledren, megis tynnu'r groth (hysterectomi), neu dynnu'r chwarren brostad.
  • Gall cyflyrau penodol sy'n effeithio ar yr ymennydd a madruddyn y cefn, megis clefyd Parkinson neu Sglerosis Ymledol effeithio ar weithrediad y bledren.
  • Gall anhwylderau penodol yn ymwneud â meinwe gyswllt, megis syndrom EhlersDanlos achosi problemau o ran rheoli'r bledren.
  • Gall meddyginiaethau penodol amharu ar y broses arferol o storio a phasio dŵr, neu gynyddu faint o wrin yr ydych yn ei gynhyrchu, gan gynnwys atalyddion ensymau trosi angiotensin (ACE), diwretigion (tabledi dŵr), rhai cyffuriau gwrth-iselder, therapi amnewid hormonau (HRT) a thawelyddion, ymhlith eraill. Dylech drafod â'ch meddyg bob amser cyn rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaeth, neu ei newid. Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaeth heb ofyn am gyngor meddygol.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: