Neidio i'r prif gynnwy

Siaradwch â rhywun - Adnoddau arlein

Os ydych chi angen siarad â rhywun heddiw am gymorth, cysylltwch a'r llinellau cymorth yma:

 

Yma i Chi yw Gwasanaeth Cynghori Ar-lein RHAD AC AM DDIM i bawb sy’n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr (rhwng 16 a 30 mlwydd oed). Mae gennym dîm o gynghorwyr gwrywaidd a benywaidd sy’n gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae ein holl gynghorwyr yn meddu ar gymwysterau cydnabyddedig o leiaf hyd at lefel gradd, gan ychwanegu hyfforddiant arbenigol wrth weithio gyda phobl ifanc.

 

 

 

Childline 0800 1111(ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
​Mae llinell gymorth plant yn helpu unrhyw un o dan 19 gydag unrhyw fater y maent yn mynd drwyddo

 

 

 

 

Y Samariaid 116123 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Cymorth emosiynol cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n wynebu teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys rhai a allai arwain at hunanladdiad. Cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn swyddfeydd lleol. www.samaritans.org

 

 

 

 

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned 0800 132737 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Gwasanaeth gwrando a chymorth emosiynol, gwybodaeth a deunydd darllen am iechyd meddwl a materion cysylltiedig ar gyfer pobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy’n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu ffrind neu berthynas ddefnyddio’r gwasanaeth.

 

 

 

Mind Infoline 0300 123 3393 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 5.00pm)
Cymorth cyfrinachol am ddim ar faterion iechyd meddwl amrywiol.

 

 

 

 

The Silver Line 0800 4708090 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy’n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn.

 

 

 

 

Meic Cymru 0808 8023456 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Llinell gymorth eirioli, gwybodaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc.

 

 

 

 

Noddfa Gyda'r Hwyr  - “Cymorth pan fydd arnoch ei angen”
Gwasanaeth iechyd meddwl i oedolion y tu allan i oriau - Mae'r Noddfa Gyda'r Hwyr yn wasanaeth y tu allan i oriau sy'n cynnig noddfa i oedolion sydd mewn perygl o brofi iechyd meddwl sy'n dirywio.  Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth a chyngor trwy ddarparu amrywiaeth o ymyraethau cefnogol mewn amgylchedd croesawgar a chartrefol yng Nghanol Tref Llanelli.
Mae'r Noddfa Gyda'r Hwyr yn darparu lleoliad amgen i fanteisio ar gymorth yn gynnar, yn ogystal ag osgoi'r ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd meddwl craidd. Mae pob agwedd ar y gwasanaeth yn ffocysu ar ddull holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Oes ydych eisiau siarad â rhywun, mae ein Noddfa gyda’r Hwyr ar agor 6.00pm – 2.00am, Dydd Iau tan Ddydd Sul. ​Ffoniwch 01554253193
                                               Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei rhedeg gan Mind Llanelli a Hafal.
 
 

Mae SilverCloud (yn agor mewn dolen newydd) yn driniaeth therapi ar-lein rhad ac am ddim a hyrwyddir gan y GIG yng Nghymru. Mae'n defnyddio dulliau profedig fel Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i helpu pobl dros 16 oed i reoli ystod o gyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Mae'r gwahanol raglenni sydd ar gael yn cwmpasu iselder, gorbryder cyffredinol, pryder cymdeithasol a phryder iechyd, yn ogystal ag OCD, panig, a ffobiâu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: