Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a chefnogaeth i Ofalwyr Ifanc

Pwy sy’n ofalwr ifanc? 
Mae gofalwyr ifanc yn blant neu bobl ifanc sy’n gofalu am rywun yn eu teulu sy’n sâl, yn anabl, neu sydd wedi’u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl neu gam-drin sylweddau.

 Yn aml bydd gofalwyr ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldebau ymarferol a/neu emosiynol y byddai disgwyl i oedolyn eu cyflawni fel arfer. Gall y tasgau amrywio yn ôl natur y salwch neu’r anabledd, lefel yr angen am ofal a pha mor aml mae’n cael ei roi, a strwythur y teulu cyfan.

Gallai gofalwr ifanc wneud tasgau ymarferol fel coginio, gwaith tŷ a siopa. Ac mae llawer yn rhoi gofal corfforol a phersonol, fel rhoi help i wisgo, ymolchi a mynd i’r tŷ bach, yn ogystal â rheoli cyllideb y teulu, a chasglu budd-daliadau a phresgripsiynau.

Gallai rhai gofalwyr ifanc ymgymryd â lefelau gofal uchel, tra bod eraill yn rhoi gofal lefel isel yn gyson. Gall y ddau gael effaith sylweddol ar blentyn neu berson ifanc.

Cefnogaeth i ofalwyr ifanc
A ydych chi dan 18 oed ac yn helpu aelod o'r teulu gyda phethau fel codi, paratoi bwyd neu rhoi moddion? Os felly, yna fe allech chi fod fel un o'r 11,000 o bobl yng Nghymru sy’n Ofalwr Ifanc.

Os ydych chi'n Ofalwr Ifanc sy'n gofalu am rywun fel mam, mam-gu neu frawd neu chwaer, yna gall gwybod pa gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd ar gael i chi wneud gwahaniaeth enfawr.

A ydych wedi dweud wrth rywun yn eich ysgol fod gennych gyfrifoldebau gofalu?

Os ydyn nhw'n gwybod eich bod chi'n gofalu am rywun efallai y bydd rhywfaint o gefnogaeth i chi yn yr ysgol i helpu gyda'ch presenoldeb, eich gwaith cartref neu ddim ond i gael  tawelwch meddwl bod rhywun yno i wrando arnoch chi.

Sir Gaerfyrddin
Gwasanaeth Addysg Gofalwyr Sir Gaerfyrddin (CEY) (5-18 oed) a Gwasanaeth Gofalwyr Oedolion Ifanc (YAC) (16 - 25 oed)

  • Grwpiau cymorth cymheiriaid (clybiau ieuenctid a chlybiau plant)
  • Teithiau seibiant dydd a phreswyl
  • Cefnogaeth 1 i 1
  • Gweithdai meithrin hyder a sgiliau

Rhif Ffôn: 0300 0200 002

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ofalwyr ifanc yn Sir Gaerfyrddin

 

Ceredigion

Mae’r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn cael ei redeg gan Credu - Gofalwyr Ceredigion Carers, yn cefnogi Gofalwyr Ifanc o dan 18 oed ac yn darparu:

  • Cefnogaeth 1:1
  • Cymorth ysgol a sesiynau galw heibio
  • Grwpiau a gweithgareddau Gofalwyr Ifanc
  • Tripiau a phreswyl
  • Dyddiau teulu
  • Cefnogaeth cyfoedion

Rhif ffôn: 03330 143377
E-bost: ceredigion@credu.cymru
Cliciwch yma am wybodaeth i ofalwyr ifanc yng Ngheredigion - Ardal Gofalwyr Ifanc | Gofalwyr Ceredigion (agor mewn dolen newydd)



Sir Benfro
Mae'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn cael ei redeg gan Gweithredu dros Blant sy'n cefnogi Gofalwyr Ifanc rhwng 8-25 oed ac mae'n darparu:

  • Cefnogaeth ysgol
  • Cefnogaeth 1 i 1
  • Grwpiau Cefnogi - Seibiant rhag gofalu
  • Cefnogaeth cymheiriaid.

Rhif Ffôn: 01437 761330

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ofalwyr ifanc yn Sir Benfro

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: