Rydym ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener o 8.00am – 4.00pm. Cysylltwch â ni drwy’r manylion isod:
Alun Ward, Hafan Derwen, Heol Ffynnon Swyddi Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3HB
Rhif Ffôn: 01267 283086
Adran Ffisiotherapi, Ysbyty Tywysog Philip, Heol Dafen, Llanelli SA14 8QF
Rhif Ffôn: 01554 783204
Ysbyty Dyffryn Aman, Folland Road, Glanaman, Dyffryn Aman, Caerfyrddin SA18 2BQ
Rhif Ffôn: 01269 820305
Mae dwy ffordd y gallwch gyrchu’r gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin
Gallwch gyfeirio eich hun at Ffisotherapi: trwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod. Os ydych yn cael problemau yn cwblhau’r ffurflen, cysylltwch â ni ar y rhifau ffôn uchod, neu ebostio ni ar: PhysioReferrals.hdd@wales.nhs.uk
Ar ôl i ni dderbyn eich atgyfeiriad, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys neu arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir.
Gallwch gael eich cyfeirio am ffisiotherapi gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd, nyrs, podiatrydd, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd)
Ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys neu arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir. Ein nod yw gweld atgyfeiriadau brys o fewn pythefnos ac atgyfeiriadau arferol cyn pen 14 wythnos ar ôl derbyn y ffurflen.