Neidio i'r prif gynnwy

Eich triniaeth diabetes yn ystod beichiogrwydd

Efallai y bydd eich meddygon yn argymell newid eich trefn driniaeth yn ystod beichiogrwydd.

Os byddwch fel arfer yn cymryd tabledi i reoli eich diabetes, fe'ch cynghorir fel arfer i newid i bigiadau inswlin, naill ai gyda meddyginiaeth o'r enw metformin neu hebddo.

Os ydych eisoes yn defnyddio pigiadau inswlin i reoli eich diabetes, efallai y bydd angen i chi newid i fath gwahanol o inswlin.

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â'ch diabetes, fel pwysedd gwaed uchel, efallai y bydd yn rhaid newid y rhain.

Mae'n bwysig iawn mynychu unrhyw apwyntiadau a wneir ar eich cyfer fel y gall eich tîm gofal fonitro eich cyflwr ac ymateb i unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich iechyd neu iechyd eich babi.

Bydd angen i chi fonitro lefelau glwcos eich gwaed yn amlach yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig gan y gall cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd (a elwir yn “salwch bore”, er y gall ddigwydd ar unrhyw adeg o’r dydd) effeithio arnynt. Bydd eich meddyg teulu neu fydwraig yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn.

Gall cadw lefelau glwcos eich gwaed yn isel olygu eich bod yn cael mwy o byliau o siwgr gwaed isel (hypoglycaemig) ("hypos"). Mae'r rhain yn ddiniwed i'ch babi, ond mae angen i chi a'ch partner wybod sut i ymdopi â nhw. Siaradwch â'ch meddyg neu arbenigwr diabetes.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: