Bydd menywod/pobl sy’n rhoi genedigaeth ac sy’n cael gofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn cael amserlen bersonol sy’n briodol iddyn nhw ym marn y meddyg ymgynghorol, ond dylech fynd i weld eich bydwraig gymunedol hefyd o leiaf ddwywaith yn ystod eich beichiogrwydd.
Mae’r amserlen yn nodi nifer yr apwyntiadau gofal cynenedigol a argymhellir ar gyfer menywod/pobl sy’n rhoi genedigaeth ac sy’n cael gofal dan arweiniad bydwraig, ac sy’n parhau i gael gofal o’r fath trwy gydol y cyfnod cynenedigol. Os oes angen cyngor arnoch rhwng y naill apwyntiad a’r llall, cysylltwch â’ch bydwraig yn ddi-oed.
Dyma beth i'w ddisgwyl yn ystod pob adeg:
Wyth i 10 wythnos
12 - 14 wythnos
- Sgan dyddio uwchsain
- Profion gwaed rheolaidd
16 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Bwrw golwg dros ganlyniadau eich prawf gwaed
- Y fydwraig yn trefnu prawf goddefiad i glwcos (GTT) os yw Mynegai Màs y Corff (BMI) > 30
Annog rhieni i feithrin perthynas â’u baban
20 - 22 wythnos
25 wythnos (babi cyntaf yn unig)
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Eich atgoffa o’r brechiadau os ydych am eu cael
28 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Trafodaeth am fan geni’ch baban
- Trafodaeth am sgrinio babanod newydd-anedig
- Pwysau
- Eich annog i fynd i ddosbarthiadau crefft magu plant
- Ailedrych ar y sgôr thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) – rhoi sticer VTE yn y llyfr
- A oeddech wedi edrych ar Pob Plentyn?
- Trafod siarad â’r baban, canu, chwarae cerddoriaeth a darllen iddo/iddi – cynnwys y teulu cyfan. Bydd hyn yn helpu ymennydd eich baban i ddatblygu ac i dyfu’n iach
- Gwybodaeth am fwydo
31 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
34 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Eich cyfeirio at y llyfryn penderfynu ar fan geni yn y pecyn cynenendigol
Croen wrth groen
- Gwerth cyswllt croen wrth groen
- Beth y mae hyn yn ei olygu i’r fam ac i’r baban?
Ymateb i anghenion eich baban
Sut y gall agosrwydd, cysur a chariad helpu ymennydd y baban i ddatblygu
- Ymateb i’ch baban – peidio â gadael i’ch baban grïo, siarad â’ch baban, y ffaith nad yw’n bosibl ‘sbwylio’ baban
- Agosrwydd – cyswllt croen wrth groen, cadw’ch baban yn yr un ystafell dros nos, ymateb i’r arwyddion bod eich baban am gael bwyd
- Safleoedd bwydo a chysylltu’r baban i fwydo ar y fron – Pob Plentyn
Bwydo
- Gwerth bwydo ar y fron o ran diogelu, cysuro a bwydo
- Trafodaeth am dynnu llaeth â llaw i bob menyw/person sy’n rhoi genedigaeth sy’n wynebu risg, h.y. diabetes, babanod sy’n fach o ystyried eu hoedran yn y groth. Rhoi pecyn casglu colostrwm
- Sut i gael dechreuad da, gan fwydo ar y fron yn unig heb fod angen rhoi llaeth fformiwla hefyd
- Os byddwch yn bwydo â photel – pwysigrwydd cyswllt croen wrth groen â’ch baban pan fyddwch yn rhoi’r botel gyntaf
36 wythnos
38 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
40 wythnos
- Archwiliad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Cynnig ysgubo pilenni i’r rheiny sy’n disgwyl eu baban cyntaf
41 wythnos
- Gwiriad cynenedigol gyda’ch bydwraig
- Cynnig ysgubo pilenni i bawb
- Trafod cymell y geni yn unol â chanllawiau’r IOL
- Pecynnau ysgogi llaeth/tynnu colostrwm â llaw ar gael gan y fydwraig gymunedol os oes eu hangen
Bydd eich archwiliadau cynenedigol gyda’ch bydwraig yn cynnwys: adolygiad o’ch hanes, profion pwysedd gwaed ac wrin, ac archwiliad o’r abdomen, trwy ei gyffwrdd, i asesu uchder y ffwndws, gorweddiad y baban yn y groth a’r rhan o’r baban sy’n cyffwrdd â’r pelfis.
Os nad ydych yn siŵr am eich cynllun gofal, defnyddiwch BRAINS ar gyfer cwestiynau defnyddiol i'w gofyn i'ch meddyg neu'ch bydwraig.
- M - manteision: beth yw manteision y driniaeth hon? Sut gall hyn effeithio'n bositif ar y babi?
- R - risgiau: beth yw'r risgiau i'w hystyried? Pa weithdrefnau eraill all ddilyn hyn?
- D - dewisiadau amgen: beth yw'r dewisiadau eraill? A oes opsiynau eraill?
- G - Greddf - Sut ydych chi'n teimlo am hyn? Sut mae eich partner yn teimlo?
- D - dim byd: beth os ydym yn dewis gwneud dim byd? A allwn ni wneud penderfyniad mewn awr?