Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch amynedd tra byddwn wedi addasu mynediad ac ymweld â'n gwasanaethau mamolaeth. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach mewn sefyllfa i wneud newidiadau i fynediad partneriaid geni ac ymwelwyr â’n gwasanaethau mamolaeth:
- Gall un partner geni aros gyda chi drwy'r amser pan fyddwch chi'n aros ar y ward. Ni allwn gynnig cyfleusterau cysur fel gwely oherwydd lle cyfyngedig, ond gallwn ddarparu cadair wrth y gwely i orffwys a gallwch ddod â'ch blanced/gobennydd eich hun os dymunwch.
- Mae gennym gyfrifoldeb am iechyd a diogelwch pawb sy'n bresennol a rhaid i ni gydymffurfio â pholisïau lleol fel rheoli heintiau, diogelwch tân a diogelwch mamau a babanod. O ystyried hyn, rhaid i bartneriaid/cyfeillion gytuno i'r amodau a nodir isod er mwyn aros dros nos.
- Os penderfynwch yr hoffech aros, byddwn yn gofyn i'r partner sy'n aros i lofnodi'r gofrestr i'n galluogi i sicrhau diogelwch pawb pe bai argyfwng yn digwydd.
- mae ymweliadau ychwanegol ar gael o 2.00pm - 4.00pm a 6.00pm - 8.00pm;
- uchafswm nifer yr ymwelwyr fesul claf yw dau;
- bydd unrhyw blant sy'n ymweld yn ffurfio rhan o u chafswm o ddau ymwelydd fesul gwely. Mae’n rhaid trafod unrhyw anawsterau mewn perthynas â hyn a’u trefnu gyda phrif nyrs y ward a defnyddio disgresiwn yn unigol (e.e. os oes brawd neu chwaer ifanc neu ddau frawd neu chwaer ifanc, gall yr ail oedolyn sy’n ymweld â nhw ddod gyda nhw);
- rhaid i blant sy'n ymweld fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol sy'n ymweld bob amser.