Mae sawl grŵp cymunedol ar gael ledled y tair sir sy’n cynnig cymorth bwydo ar y fron, cymorth cymunedol a chyrsiau babanod. Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen Facebook gwasanaethau mamolaeth i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ymlaen yn eich ardal (agor mewn dolen newydd).
Bydwraig gymunedol – o enedigaeth tan ddeg - 14 diwrnod ar ôl geni. Mae rhifau cyswllt ar flaen eich nodiadau ôl-enedigol.
Ymwelydd Iechyd – O 10 diwrnod ar ôl geni. Gwiriwch Gofnodion Iechyd Plant a gwnewch yn siŵr bod y manylion cyswllt wedi'u dogfennu.
Cymorth Bwydo Arbenigol – Cynhelir clinigau llaetha yn Glangwili a Llwynhelyg ar ddydd Iau. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â:
Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar agor ar 0300 100 0212 bob diwrnod o’r flwyddyn, 24 awr y dydd, gan gynnig cymorth a gwybodaeth anfeirniadol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n canolbwyntio ar y galwr, yn annibynnol ac yn gyfeillgar i unrhyw un yn y DU sydd ei angen.
Parc Dewi Sant, Caerfyrddin (What3Words: today.craft.email)
Llaeth mam, Sied Nwyddau Rheilffordd, Llanelli
Canolfan Deulu Porth Tywyn
Neuadd y Ffermwyr Ifanc Ffairfach
Yr Eos, y Ganolfan Integredig i Blant, Penparcau, SY23 1SH
Grwp bwydo ar y fron Aberaeron, Ray Ceredigion, Stryd y Tabernacl, Aberaeron
Capel y bedyddwyr Mount Zion, Heol y Priordy, Aberteifi
Llandysul Family Centre, Llandysul
Ysbyty bwthyn Dinbych y Pysgod
“Milk Matters”, Maenordy Scolton, Hwlffordd
Canolfan Dechrau’n deg, Pennar, Doc Penfro
Mae clinigau cwlwm tafod yn cael eu cynnal yn Ysbyty Glangwili, cysylltwch â’ch bydwraig gymunedol neu ymwelydd iechyd os ydych chi’n credu bod gan eich babi cwlwm tafod ac yr hoffech chi gael eich cyfeirio at y clinig hwn.
Adnoddau bwydo babanod