Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau integredig cymorth i deuluoedd

Yr hyn a wnawn

Mae'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn fenter gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth i deuluoedd y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan arferion camddefnyddio alcohol neu gyffuriau rhieni.

Darparir y Gwasanaeth yn lleol gan dimau amlddisgyblaethol ac aml-asiantaeth, y byddant yn darparu ymyriadau ar sail tystiolaeth am amser cyfyngedig, ac y mae modd iddynt ymateb i anghenion y teulu cyfan.  Yn Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ceir 4 Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae pob Tîm Integredig Cymorth i deuluoedd yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol medrus iawn, o ofal cymdeithasol a gofal iechyd, sydd â phrofiad arbenigol i weithio'n uniongyrchol gyda'r teuluoedd a atgyfeiriwyd. Cydnabyddir bod rhai teuluoedd yn aml yn wynebu sawl anfantais sy'n gofyn am gefnogaeth arbenigol a dwys iawn. Gall y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ymwelwyr iechyd, ac arbenigwyr ymyrraeth iechyd / gofal cymdeithasol, a rheolir y Tîm gan arweinydd tîm / gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol.

Y sawl y byddwn yn gweithio gyda nhw

Mae'r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd y mae camddefnyddio sylweddau rhieni yn effeithio arnynt lle mae pryderon ynghylch gofal a lles eu plant.

Mae'r timau hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau cymorth teulu eraill i gynorthwyo rhieni i barhau i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n amddiffyn plant sy'n agored i niwed er budd y teulu.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw adborth ynghylch y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni:

Sir Gaerfyrddin

Ffôn: 01554 742450

Ceredigion

Ffôn:01545 572616

Sir Benfro

Ffôn: 01437 775700

Powys

Ffôn:  01597 827325

Tîm Cymorth Busnes Rhanbarthol

Ffôn: 01269 833325

(Os yw'r peiriant ateb ymlaen, gadewch neges - bydd galwadau'n cael eu gwirio'n rheolaidd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: