Os yw'ch plentyn yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999. Gwnewch hyn os oes gan eich plentyn unrhyw un o'r canlynol:
Ar hyn o bryd mae dau ysbyty ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda sef Ysbyty Bronglais, Aberystwyth; ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - sydd ag Adrannau Brys wedi eu cyd-leoli gyda gwasanaethau ysbyty pediatreg ac arbenigwyr ar y safle; a lle gellir trin plant â salwch neu anafiadau difrifol.
Mae hyn yn golygu, tan 2022 pan fydd adolygiad, dim ond plant â mân anafiadau y bydd Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn eu gweld, neu drwy apwyntiadau cleifion allanol wedi'u bwcio.
Bydd plant â salwch neu anafiadau difrifol yn cael ei gweld naill ai yn Ysbyty Bronglais neu Ysbyty Glangwili.