Mae'r gwasanaeth asesu'r cof yn llwybr diagnostig gofal sylfaenol sy'n cael ei gynnal gan y gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn (agor mewn dolen newydd), ac sydd ar gyfer pobl o unrhyw oedran yr amheuir bod ganddynt ddementia.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig:
Arweinir y timau gan uwch-ymarferwyr nyrsio, un ym mhob sir, ac maent yn cynnwys seiciatrydd ymgynghorol arweiniol meddygol penodedig, niwroseicolegydd ymgynghorol, ynghyd â nyrsys asesu'r cof arbenigol a therapyddion galwedigaethol.
Er mwyn diystyru achosion cildroadwy cyffredin nam ar y cof, gofynnwn i feddyg teulu gwblhau sgrin iechyd corfforol. Mae hyn er mwyn diystyru unrhyw achosion posibl eraill dros newidiadau yn eich cof cyn i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth.
Fel arfer, cynhelir yr asesiadau mewn amgylchedd clinig, ac maent yn cymryd tua dwyawr, a bydd y diagnosis fel arfer wedi’i gwblhau cyn pen 12 wythnos i’r atgyfeiriad.
Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Aimee Williams
Rhif Ffôn: 01267 674020
Cyfeiriad: Y Delyn, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Gwasanaeth Asesu'r Cof De Caerfyrddin
Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Aimee Williams
Rhif Ffôn: 01554 779311
Cyfeiriad: Caebryn, Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli
Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Kate Bevan-Smith
Rhif Ffôn: 01437 772844
Cyfeiriad: St Brynachs, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd
Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Kate Bevan-Smith
Rhif Ffôn: 01970 635839
Cyfeiriad: Enlli, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
(Cynhelir clinigau yn ne'r sir hefyd)