Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint

Mae Adsefydlu’r Ysgyfaint yn ymyriad wedi’i ragnodi dros 6 wythnos ar gyfer pobl sy’n byw gyda chlefyd hirdymor yr ysgyfaint. Mae’r cwrs yn darparu addysg ac ymarferion i’ch helpu i hunan-reoli eich cyflwr.

Mae Adsefydlu’r Ysgyfaint ar gael i gleifion sydd wedi cael diagnosis o:

  • Cyflwr Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Asthma Cronig
  • Ffeibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint
  • Cyn/Ar ôl Llawdriniaeth
  • Bronciectasis
  • Canser yr Ysgyfaint
  • Sarcoidosis
  • Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint
  • Unrhyw un sy’n aros am drawsblaniad ysgyfaint

Trwy ofyn i’ch Meddyg Teulu, nyrs practis, nyrs anadlol, ymgynghorydd neu weithiwr iechyd proffesiynol i anfon atgyfeiriad atom ar eich rhan. Rhaid i chi fod yn siwr eu bod yn gyfarwydd â chi a bod gennych ddiagnosis wedi’i gadarnhau o glefyd yr ysgyfaint.

Byddwch yn cael eich asesu gan dîm o Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a Nyrsys Anadlol ac yn cael cynnig dull sy’n canolbwyntio ar y claf i’ch galluogi i hunan-reoli eich cyflwr iechyd.

Unwaith y byddwch wedi cael eich atgyfeirio a’ch asesu gan ein tîm, gofynnir i chi fynychu un o’n cyrsiau. Darperir cyrsiau Adsefydlu’r Ysgyfaint mewn rhwydweithiau clwstwr Meddygon Teulu ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion mewn canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden yn lleol.

Cynhelir cyrsiau yn Sir Benfro a Cheredigion rhwng 10.00am a 12.00pm ar ddydd Llun a dydd Mercher.

Cynhelir cyrsiau yn Sir Gaerfyrddin rhwng 10.00am a 12.00pm a rhwng 13.00pm a 15.00pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau.

Mae lleoliadau’r cyrsiau yn amrywio yn dibynnu arb le mae’r angen mwyaf o fewn pob sir. Byddwn yn cysylltu â chi i weld pa ardal sydd fwyaf cyfleus i chi.

Gallwch gysylltu â’r tîm yn ystod oriau swyddfa ar 01554 899022

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: